Mae capten tîm criced Morgannwg, Michael Hogan yn dychwelyd i’r garfan ar gyfer ail ymweliad y sir eleni â chae San Helen i wynebu Swydd Derby heddiw.

Mae’r bowliwr cyflym, sy’n enedigol o Awstralia, wedi gwella o anaf i linyn y gâr oedd yn golygu nad oedd e ar gael ar gyfer ail hanner yr ymgyrch 50 pelawd yng Nghwpan Royal London na’r daith i Edgbaston i herio Swydd Warwick yn ail adran y Bencampwriaeth.

Hefyd yn dychwelyd mae’r batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson sydd wedi cwblhau ei arholiadau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Troellwr ifanc wedi’i gynnwys am y tro cyntaf

Mae wyneb newydd yng ngharfan Morgannwg hefyd, sef y troellwr llaw chwith ifanc, Prem Sisodiya, sydd wedi creu argraff wrth chwarae i’r ail dîm ac i dîm dan 19 Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Fe ddaeth e drwy rengoedd Morgannwg ac yntau’n aelod o Glwb Criced Caerdydd.

Yr ymwelwyr

Mae Swydd Derby wedi enwi carfan o 14 o chwaraewyr ar gyfer y daith i Abertawe.

Yn eu plith mae’r troellwr ifanc sy’n hanu o Afghanistan, Hamidullah Qadri a chwaraeodd i’r sir am y tro cyntaf yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg o dan y llifoleuadau yng Nghaerdydd y tymor diwethaf.

Bryd hynny, fe gipiodd e chwe wiced am 76 yn y gêm.

Hefyd yn dychwelyd i’r garfan mae Matt Critchley a Ben Slater, ynghyd â’r Gwyddel Gary Wilson, oedd wedi creu argraff wrth chwarae i Iwerddon mewn gemau ugain pelawd yn erbyn yr Alban a’r Iseldiroedd.

Mae Harvey Hosein wedi’i gynnwys yn absenoldeb Luis Reece, sydd wedi torri asgwrn yn ei droed.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg, sy’n nawfed yn y tabl, yn herio tîm Swydd Derby sy’n chweched.

Dydy’r ddwy sir ddim wedi herio’i gilydd yn y Bencampwriaeth yn Abertawe ers 2003. Bryd hynny, cipiodd prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft chwe wiced am 71 i orfodi’r Saeson i ganlyn ymlaen.

Morgannwg enillodd yr ornest yn y pen draw o fatiad a 70 o rediadau.

Dydy Swydd Derby ddim wedi ennill gêm Bencampwriaeth yn San Helen ers 1983, pan oedden nhw’n fuddugol o ddwy wiced.

Carfan Morgannwg: M Hogan (capten), D Lloyd, N Selman, U Khawaja, J Murphy, K Carlson, O Morgan, A Salter, C Cooke, L Carey, P Sisodiya, J Lawlor

Carfan Swydd Derby: B Godleman (capten), B Slater, W Madsen, A Hughes, C Brodrick, M Critchley, H Hosein, G Wilson, H Viljoen, T Palladino, R Rampaul, D Olivier, H Qadri, A Gleadall

Sgorfwrdd