Mae gemau criced yn cael eu cynnal yn Aberdâr heddiw er cof am y cyn-gricedwr a chyn-brif hyfforddwr Morgannwg, John Derrick.
Fe fu farw o diwmor ar ei ymennydd yn 54 oed fis Mawrth y llynedd.
Mae llu o gricedwyr Morgannwg – o’r tîm presennol a thimau’r gorffennol – wedi dod ynghyd yn ei dref enedigol i’w gofio.
Gyrfa
Fel chwaraewr amryddawn, chwaraeodd e mewn mwy na 200 o gemau i Forgannwg cyn troi ei law at hyfforddi.
Mae’n cael ei ystyried yn brif hyfforddwr mwyaf llwyddiannus y sir, wrth iddo ennill tlws y Gynghrair Undydd Genedlaethol yn 2002 a 2004, cyrraedd Diwrnod Ffeinals y T20 Blast yn 2004, ac fe arweiniodd ei dîm i ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth.
Ar ôl gadael Morgannwg, fe weithiodd i Fwrdd Criced Cymru fel Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol, ac roedd yn ddadansoddwr ar raglenni criced BBC Cymru.
Y gemau
Tîm Aberdâr sy’n dechrau’r diwrnod yn erbyn tîm Criced Cymru ac un o’r chwaraewyr yw Liam Derrick, mab John.
Uchafbwynt y diwrnod fydd y gêm 25 pelawd rhwng Aberdâr a thîm Morgannwg sy’n cynnwys rhai o sêr y sir.
Y rhai sy’n chwarae i Forgannwg yw Matthew Maynard, Robert Croft, Mark Wallace, Mike Powell, David Harrison, Dean Cosker, Ryan Watkins, Adrian Shaw, Aneurin Donald, Andrew Salter, Ruaidhri Smith a Lukas Carey.
Mae cinio arbennig hefyd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Criced Aberdâr, lle bydd Matthew Maynard, Robert Croft a Mike Powell yn rhannu eu hatgofion ohono.