Doedd 131 gan fatiwr tramor Morgannwg, Shaun Marsh ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Awstralia yng Ngerddi Sophia yn Nghaerdydd, wrth i Loegr eu curo o 38 o rediadau yn yr ail gêm undydd yn y gyfres 50 pelawd.

Dyma’r tro cyntaf erioed i fatiwr sy’n chwarae dros Forgannwg daro canred mewn gêm ryngwladol yng Nghaerdydd, a’r sgôr unigol gorau erioed gan unrhyw fatiwr mewn gêm undydd ryngwladol ar y cae hwn.

Cipiodd Liam Plunkett bedair wiced am 53, ac Adil Rashid dair wiced am 70 i gau pen y mwdwl ar y gêm.

Yn gynharach yn y gêm, tarodd Jason Roy 120 – y sgôr unigol gorau erioed yng Nghaerdydd ar y pryd – a Jos Buttler 91 heb fod allan wrth i Loegr sgorio 342.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Awstralia wedi colli saith allan o’r wyth gêm undydd diwethaf.

Dechrau da i Awstralia

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu bowlio, cafodd Awstralia eu cosbi’n gynnar yn y gêm gan fatwyr agoriadol Lloegr, Jason Roy a Jonny Bairstow, wrth iddyn nhw daro 40 oddi ar chwe phelawd.

Ond daeth llwyddiant cynta’r bowlwyr wrth i Jonny Bairstow ergydio’n isel a llac i’r wicedwr Tim Paine oddi ar fowlio Kane Richardson am 42 yn y nawfed pelawd, a chafodd Alex Hales ei fowlio’n gampus rhwng y bat a’i goesau gan Jhye Richardson am 26, a’r Saeson yn 113 am ddwy.

Cyrhaeddodd Jason Roy ei hanner canred oddi ar 52 o belenni yn fuan wedyn wrth geisio adfer y batiad i’r Saeson.

Canred i Jason Roy

Ar ôl i’r glaw gilio, daeth Jason Roy allan yr un mor ymosodol ond roedden nhw’n 179 am dair wrth i Joe Root gael ei ddal gan D’Arcy Short wrth dynnu tua’r pafiliwn oddi ar fowlio Marcus Stoinis am 22. Roedd ei bartneriaeth â Jason Roy yn werth 66.

Cyrhaeddodd Jason Roy ei ganred – ei bumed mewn gêm undydd dros Loegr – yn fuan ar ôl dychwelyd i’r cae wedi’r glaw, a hynny oddi ar 97 o belenni, gan gynnwys naw pedwar a dau chwech.

Daeth batiad Jason Roy i ben wrth i’r wicedwr ei ddal yn gampus oddi ar fowlio Andrew Tye am 120, a’r Saeson erbyn hynny’n 239 am bedair.

Lloegr yn colli’u ffordd

Wrth i Jos Buttler gyrraedd ei hanner canred oddi ar 38 o belenni, collodd Sam Billings ei wiced, wedi’i fowlio gan Andrew Tye, wrth iddo gipio’i ail wiced a’r Saeson yn 289 am bump.

Collon nhw Moeen Ali a David Willey wedyn i’w gadael yn 325 am saith.

Cwympodd yr wythfed wiced wrth i Liam Plunkett gael ei redeg allan, ac fe gyrhaeddodd Lloegr 342 am wyth ar ddiwedd y batiad.

Ymateb Awstralia

Daliodd Alex Hales y bêl oddi ar ergyd gan Travis Head i roi wiced gynta’r batiad i Mark Wood, a’r Awstraliaid yn 24 am un yn y bedwaredd pelawd wrth gwrso 343 i ennill.

Cafodd D’Arcy short ei ddal yn y slip gan Joe Root oddi ar fowlio’r troellwr Moeen Ali, ac fe ddilynodd Marcus Stoinis gyda’r sgôr ar 99 am dair, wedi’i fowlio gan Liam Plunkett am naw.

Collodd Awstralia eu pedwaredd wiced ar 110, wrth i’r troellwr coes Adil Rashid daro coes Aaron Finch o flaen y wiced heb ei fod e wedi sgorio. Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd batiwr Morgannwg, Shaun Marsh ei hanner canred oddi ar 54 o belenni.

Shaun Marsh – y wiced dyngedfennol

Roedd Shaun Marsh a Glenn Maxwell wedi ychwanegu 54 pan gafodd Maxwell ei ddal gan David Willey oddi ar fowlio Moeen Ali am 31, a’r Awstraliaid yn 164 am bump.

Wrth i Awstralia geisio achub y gêm, roedd eu tynged yn nwylo Ashton Agar a Shaun Marsh, ac fe gyrhaeddodd Marsh ei ganred ym mhelawd rhif 39, a hynny oddi ar 95 o belenni, gan daro deg pedwar ac un chwech.

Ond collodd Ashton Agar ei wiced yn fuan wedyn am 46, wedi’i stympio gan y capten dros dro Jos Buttler oddi ar fowlio Adil Rashid, a’r sgôr yn 260 am chwech. Roedd eu partneriaeth yn werth 96.

Cafodd y capten Tim Paine ei ollwng gan Moeen Ali cyn cael ei ddal gan Adil Rashid oddi ar fowlio Liam Plunkett am 15, a’r sgôr yn 292 am saith.

Daeth y wiced fawr – a thyngedfennol – wrth i Shaun Marsh gael ei fowlio gan Liam Plunkett am 131, ar ôl wynebu 116 o belenni mewn dwy awr a 58 munud. Tarodd e ddeg pedwar a thri chwech.

Dilynodd Andrew Tye yn dynn ar ei sodlau, wrth i’r troellwr coes Adil Rashid gipio’i ganfed wiced mewn gemau undydd dros Loegr.

Ac fe ddaeth diwedd y gêm pan gafodd Jhye Richardson ei ddal gan Jason Roy oddi ar fowlio Liam Plunkett am ddau, a’r Awstraliaid i gyd allan am 304.