Fe fydd tîm criced Lloegr yn herio Awstralia mewn gêm 50 pelawd yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (11 o’r gloch), wrth iddyn nhw geisio sicrhau mantais o 2-0 yn y gyfres undydd.

Lloegr oedd yn fuddugol yn y gêm gyntaf ar gae’r Oval ganol yr wythnos, a hynny o dair wiced.

Bryd hynny, cafodd Awstralia eu bowlio allan am 214, er i Glenn Maxwell (62) ac Ashton Agar (40) eu hachub i ryw raddau. Roedd tair wiced yr un i’r troellwr Moeen Ali a’r bowliwr cyflym Liam Plunkett.

Wrth gwrso 215 am y fuddugoliaeth, dechreuodd y Saeson yn gryf gyda chyfraniadau o 69 gan Eoin Morgan a 50 gan Joe Root. Ond fe gollon nhw eu ffordd yng nghanol y batiad wrth golli tair wiced am 10 rhediad cyn i David Willey daro 35 heb fod allan i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Helynt Awstralia

Os oedd Awstralia am ddial ar Loegr am y grasfa o 4-1 yn y gyfres undydd dros y gaeaf, doedd eu paratoadau ar gyfer y gyfres hon yn fawr o gymorth.

Yn sgil helynt tarfu ar y bêl, cafodd dau o’u chwaraewyr mwyaf profiadol, David Warner a’r capten Steve Smith eu gwahardd, ac maen nhw wedi penodi Justin Langer yn brif hyfforddwr yn lle Darren Lehmann, oedd wedi ymddiswyddo yn sgil y ffrae, a Tim Paine yn gapten yn lle Steve Smith.

Shaun Marsh

Serch hynny, fe fydd yna wyneb cyfarwydd yn ngharfan Awstralia, wrth i fatiwr tramor Morgannwg, Shaun Marsh ddychwelyd i Gaerdydd gyda’i famwlad.

Perfformiadau digon cymysg gafwyd ganddo fe mewn gemau undydd yng Nghaerdydd ar ddechrau’r tymor, wrth iddo fe daro 57 yn erbyn Swydd Gaerloyw a chwech yn erbyn Swydd Middlesex yng Nghwpan Royal London.

Yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr ar yr Oval, 24 yn unig sgoriodd e.

Lloegr yn gartrefol

O ran Lloegr, mae ganddyn nhw record dda ‘gartref’ yng Nghaerdydd yn erbyn Awstralia, wrth iddyn nhw ennill eu gêm ugain pelawd ddiwethaf yn 2015 – Moeen Ali, Joe Root a David Willey oedd y perfformwyr gorau bryd hynny hefyd.

Ond y tro diwethaf i Loegr chwarae yng Nghaerdydd – yn erbyn Pacistan yn Nhlws yr ICC y tymor diwethaf – y cae oedd yn cael y bai am iddyn nhw golli.

Sgorfwrdd