Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddechrau diwrnod olaf eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston.

Tarodd Usman Khawaja 125 yn ei gêm gyntaf i’r sir wrth i Forgannwg sgorio 323 i gyd allan yn eu hail fatiad i osod nod o 294 i’r Saeson gydag ychydig yn fwy na diwrnod yn weddill o’r gêm.

Mae angen 269 yn rhagor ar y tîm cartref, gyda’u holl wicedi mewn llaw, ac maen nhw’n 25-0.

Sesiwn y bore

Dechrau digon siomedig i’r sesiwn gyntaf gafodd Morgannwg ar ôl dechrau’r trydydd diwrnod yn gryf ar 55 heb golli wiced. Bedair pelawd a hanner yn unig gymerodd hi i Swydd Warwick gipio’r wiced gyntaf, wrth i Nick Selman ddarganfod dwylo diogel Dominic Sibley yn y slip am 42, a Morgannwg yn 64 am un.

Doedd hi ddim yn hir cyn i’r Cymry golli eu hail wiced, wrth i Connor Brown gael ei ddal gan y wicedwr Tim Ambrose oddi ar fowlio Chris Wright am un, a’r Cymry’n 67 am ddwy. Ac roedden nhw’n 95 am dair pan gafodd Jack Murphy ei fowlio oddi ar ymyl ei fat gan Henry Brookes am 25.

Toc cyn cinio, collodd Morgannwg eu pedwaredd wiced, wrth i Brookes daro coes Owen Morgan o flaen y wiced am naw, a’r Cymry’n 144 am bedair. Ond roedd Usman Khawaja, yn ei gêm gyntaf i’r sir, yn parhau i wrthsefyll y bowlwyr ar 59 heb fod allan erbyn yr egwyl.

Sesiwn y prynhawn

Brwydrodd yr Awstraliad ymlaen ar ôl cinio mewn partneriaeth gyda Chris Cooke i gyrraedd ei ganred – yr ail Awstraliad y tymor hwn, a’r unfed chwaraewr ar ddeg yn hanes y sir, i daro canred yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf.

Shaun Marsh oedd yr Awstraliad cyntaf. Dim ond dau Awstraliad arall, Matthew Elliott a Mark Cosgrove sydd wedi gwneud hynny.

Ond fe ddaeth ei fatiad i ben wrth i Jeetan Patel daro’i goes o flaen y wiced am 125, ac yntau wedi adeiladu partneriaeth o 115 gyda’r capten dros dro, Chris Cooke am y bumed wiced, a Morgannwg yn 259 am bump. Erbyn amser te, roedd Chris Cooke heb fod allan ar 53.

Y sesiwn olaf

Ond wnaeth y capten ddim para’n hir ar ôl amser te, wrth iddo fe gael ei ddal gan y wicedwr Tim Ambrose oddi ar fowlio Henry Brookes am 59, a’r Cymry’n 284 am chwech, wrth i’r bowliwr gipio’i drydedd wiced.

Cipiodd Keith Barker y seithfed wiced heb i Forgannwg ychwanegu at y cyfanswm, wrth iddo daro coes David Lloyd o flaen y wiced am 11. Roedd hynny’n golygu bod dau fatiwr newydd, di-sgôr – Andrew Salter a Ruaidhri Smith – wrth y llain.

Cafodd Smith ei ddal yn y slip gan Dominic Sibley oddi ar fowlio Chris Wright am 17, wrth i Forgannwg gyrraedd 312 am wyth. Roedden nhw’n 322 am naw o fewn dim o dro, pan darodd Jeetan Patel goes Andrew Salter o flaen y wiced am saith.

Daeth batiad Morganwg i ben ar 324 pan gafodd Lukas Carey ei ddal gan Dominic Sibley yn y slip oddi ar fowlio Chris Wright heb sgorio, gan osod nod o 294 i Swydd Warwick, oedd wedi gorffen y trydydd diwrnod ar 25 heb golli wiced.

“Ro’n i’n teimlo’n dda o’r dechrau’n deg”

Ar ddiwedd y trydydd diwrnod, dywedodd Usman Khawaja: “Roedd gyda fi rywfaint o ‘jet-lag’ o hyd yn ystod y batiad cyntaf a do’n i ddim yn teimlo’n iawn, ond roedd hi’n braf cael rhywfaint o amser yn y canol [yn yr ail fatiad].

“Des i allan gyda mwy o fwriad positif. Ro’n i’n teimlo’n dda o’r dechrau’n deg.

“Roedden ni’n gwybod y byddai blaenoriaeth o fwy na 250 yn braf iawn pan ddes i i mewn. Daethon ni’n agos i 300 ac mae’n un o’r lleiniau hynny sy’n gallu bod yn waith caled. Dyw’r llain ddim yn gyflym iawn.

“Gobeithio y byddwn ni’n parhau i frwydro, parhau i’w cyfyngu nhw, a bowlio deg pelen dda ac ennill y gêm.”

Sgorfwrdd