Mae Usman Khawaja wedi sicrhau lle iddo fe ei hun yn llyfrau hanes Clwb Criced Morgannwg ar drydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston.

Yr Awstraliad, a gafodd ei eni ym Mhacistan, yw’r unfed chwaraewr ar ddeg i sgorio canred dosbarth cyntaf yn ei gêm gyntaf i’r sir – y pedwerydd Awstraliad i gyflawni’r gamp ar ôl Matthew Elliott, Mark Cosgrove a Shaun Marsh, y batiwr y mae e wedi’i ddisodli am dair gêm yn y Bencampwriaeth.

Pan ddaeth ei fatiad i ben, roedd e wedi sgorio 125, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 323 yn eu hail fatiad i osod nod o 294 i Swydd Warwick am y fuddugoliaeth gydag ychydig dros ddiwrnod yn weddill o’r gêm.

Mae Usman Khawaja yn efelychu camp Shaun Marsh, oedd wedi taro 111 yn erbyn Swydd Gaerloyw – unig fuddugoliaeth Morgannwg yn y Bencampwriaeth hyd yn hyn eleni.

Ac mae’n ymuno a rhestr ddethol iawn o gricedwyr ymhlith yr unarddeg – mae’r rhestr hefyd yn cynnwys Brendon McCullum, Younis Ahmed, Javed Miandad a Matthew Maynard.

Fe gafodd Usman Khawaja ei arwyddo ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn wreiddiol, ond mae e wedi symud i Gymru’n gynnar fel eilydd i Shaun Marsh, sydd ar daith yng Nghymru a Lloegr gyda thîm undydd Awstralia.