Mae tîm criced Morgannwg dan bwysau cyn dechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston.

Cipiodd y troellwr coes Josh Poysden bum wiced am 29 i’r Saeson – ei ffigurau gorau erioed – wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 220 yn eu batiad cyntaf, cyn i Swydd Warwick orffen y diwrnod ar 24 am ddwy yn eu batiad cyntaf.

Penderfynodd Morgannwg fatio ar y bore cyntaf a chael eu cosbi ar unwaith – dim ond David Lloyd (39), Owen Morgan (36) a’r capten dros dro Chris Cooke (34) oedd wedi cyfrannu gyda’r bat.

Ychwanegodd agorwyr Morgannwg, Nick Selman a Jack Murphy 44 mewn 14 o belawdau cyn i Henry Brookes daro coes Murphy o flaen y wiced.

Colli wicedi’n gyflym

Collodd Connor Brown ei wiced yn fuan wedyn, wrth ddarganfod y wicedwr oddi ar fowlio Chris Wright, a chafodd Nick Selman ei ddal gan faeswr agos oddi ar fowlio’r troellwr Jeetan Patel.

Sgoriodd yr Awstraliad Usman Khawaja bedwar yn unig yn ei batiad cyntaf i’r Cymry cyn i Chris Cooke ac Owen Morgan adeiladu partneriaeth o 57 mewn 15 o belawdau cyn i Josh Poysden daro coes Morgan o flaen y wiced a chael Andrew Salter allan, wedi’i ddal.

Roedd David Lloyd allan dan gwmwl, wrth i’r dyfarnwr benderfynu ei fod e wedi taro pêl i’r wicedwr Tim Ambrose oddi ar fowlio Jeetan Patel, a tharodd Poysden goes Ruaidhri Smith o flaen y wiced cyn bowlio Lukas Carey i gipio’i bumed wiced.

Batiad cynta’r Saeson

Os oedd bowlwyr Swydd Warwick wedi cael llwyddiant ar lain Edgbaston, tro bowlwyr Morgannwg oedd hi i ddisgleirio yn hwyr yn y dydd, gan gipio dwy wiced hwyr.

Cafodd Will Rhodes ei fowlio gan Lukas Carey oddi ar belen gynta’r batiad, cyn i Timm van der Gugten fowlio Dominic Sibley yn y degfed pelawd.

Mae’r ffaith mai’r bowlwyr sydd wedi disgleirio hyd yn hyn yn eironig o gofio bod dau brif fowliwr y naill sir a’r llall yn absennol.

Mae Morgannwg heb Marchant de Lange a’u capten Michael Hogan, tra bod Olly Stone a Ryan Sidebottom allan o dîm y Saeson.

Sgorfwrdd