Ar ôl ymgyrch siomedig yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, mae sylw tîm criced Morgannwg yn troi at y Bencampwriaeth unwaith eto wrth iddyn nhw deithio i Edgbaston i herio Swydd Warwick heddiw.

Mae nifer o’r chwaraewyr mwyaf blaenllaw wedi’u hanafu, gan gynnwys y capten yn y Bencampwriaeth, Michael Hogan a’r bowliwr cyflym Marchant de Lange. Mae’r ddau wedi anafu llinyn y gâr.

Dydy’r batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson ddim ar gael gan ei fod yn sefyll arholiadau ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.

Mae’r absenoldebau’n golygu y bydd y wicedwr a’r is-gapten Chris Cooke yn arwain y tîm am y tro cyntaf.

Batwyr

Ar ôl sgorio 98 yn erbyn Swydd Surrey yng Nghwpan Royal London, fe fydd y batiwr ifanc o Gaerffili, Connor Brown yn cael cyfle arall i serennu.

Mae’n un o wyth chwaraewr yn y garfan sydd wedi dod drwy rengoedd Morgannwg, ac fe allai chwarae yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf y tymor hwn.

Hefyd yn y garfan mae’r batiwr o Awstralia, Usman Khawaja. Cafodd ei ddenu i’r sir ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd yn absenoldeb ei gydwladwr Shaun Marsh, sydd wedi’i alw i’r garfan genedlaethol. Ond fe fydd yn chwarae mewn sawl gêm yn y Bencampwriaeth hefyd.

Timm van der Gugten ar gael

Yn ôl y capten Michael Hogan, mae’r ffaith fod y bowliwr cyflym o’r Iseldirodd, Timm van der Gugten ar gael yn hwb i’r sir.

Dywedodd wrth golwg360: “Mae e wedi gwneud yn dda i ni. Ry’n ni’n gwybod ei fod e’n fowliwr o safon ac mi oedd e’n dda yn ei flwyddyn gyntaf gyda ni er ei fod e’n anlwcus o ran anafiadau.

“Ond pan mae e’n tanio, mae e’n wych i ni.”

Edgbaston

Yn ôl Michael Hogan, byddai buddugoliaeth yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston “yn dda i hyder” Morgannwg ar ôl ymgyrch siomedig yng Nghwpan Royal London.

“Fe gawson ni nifer o gyfleoedd i gladdu’r gêm yn erbyn Swydd Gaerlŷr ond doedden ni ddim wedi gallu gwneud hynny, ac roedd hynny’n destun siom i fi.

“Mae’n bwysig i’n hyder ni fel criw ifanc [i ennill]. A dysgu sut i ennill gemau agos hefyd. Bydd hi’n bwysig i ni fagu hyder.”

Mae’n cyfaddef fod yna ansicrwydd ynghylch y llain yn Edgbaston.

“Mae’n debyg y byddwn ni’n gallu gweld beth mae’n ei gynnig ar ôl i ni gyrraedd. Bydden ni’n hapus gyda gwelliant yn ein perfformiad o’i gymharu â’r gêm ddiwethaf.

“Ond mae’r bois mewn lle da ar hyn o bryd a byddwn i’n disgwyl gwelliant yn eu perfformiad nhw.”

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae mewn gêm Bencampwriaeth ar gae Edgbaston ers 2008. Bryd hynny, y Saeson oedd yn fuddugol, a hynny o 179 o rediadau. Roedden nhw’n fuddugol o bum wiced yng Nghaerdydd y tymor hwnnw hefyd.

Y Saeson oedd yn fuddugol ddwywaith yn 2005 hefyd, gan gipio buddugoliaeth o fatiad yn Edgbaston ac o ddeg wiced ym Mae Colwyn.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Warwick yn y Bencampwriaeth ers Awst 1993, pan gipiodd Adrian Dale chwe wiced am 18 wrth fowlio’r gwrthwynebwyr allan am 125. Tarodd y capten – a phrif weithredwr presennol y sir – Hugh Morris hanner canred i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Dydy’r Cymry ddim wedi curo Swydd Warwick ar eu tomen eu hunain yn y Bencampwriaeth ers Awst 1988.

Swydd Warwick sydd ar frig yr ail adran ar hyn o bryd ar ôl gostwng o’r adran gyntaf y tymor diwethaf, a Morgannwg ar y gwaelod ar ôl ennill un gêm yn unig hyd yn hyn.

Swydd Warwick: W Rhodes, D Sibley, I Bell, J Trott, S Hain, T Ambrose, K Barker, J Patel (capten), C Wright, H Brookes, J Poysden

Morgannwg: N Selman, K Murphy, U Khawaja, C Brown, C Cooke (capten), D Lloyd, O Morgan, A Salter, R Smith, T van der Gugten, L Carey

Sgorfwrdd