Colli o bum wiced yn erbyn Swydd Surrey oedd hanes Morgannwg wrth i’w hymgyrch yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London ddod i ben ar gae’r Oval nos Fercher.

Tarodd batiwr 19 oed y Saeson, Will Jacks 80 oddi ar 57 o belenni wrth i’r tîm cartref ennill o bum wiced wrth gwrso 267 i ennill.

Yn gynharach yn y gêm, daeth y batiwr 21 oed o Gaerffili, Connor Brown o fewn dau rediad i’w ganred cyntaf i Forgannwg wrth iddo gael ei ddal yn ceisio ergyd fawr i gyrraedd y garreg filltir.

Fe ddaeth ei 98 oddi ar 136 o belenni, wrth iddo fe daro un chwech a naw pedwar cyn cael ei ddal ym mhelawd ola’r batiad, a Morgannwg wedi cyrraedd 266 am wyth.

Cipiodd y bowliwr Rikki Clarke dair wiced am 49 i osod y seiliau i’r Saeson, ac roedd dwy wiced i Morne Morkel am 39.

Mae’r canlyniad yn golygu mai un gêm yn unig mae Morgannwg wedi ei hennill yn ystod y gystadleuaeth.

Manylion

Fe wnaeth penderfyniad Swydd Surrey i wahodd Morgannwg i fatio dalu ar ei ganfed wrth i’r Cymry golli eu dwy wiced gyntaf heb sgorio’r un rhediad. Collodd Nick Selman ei wiced oddi ar drydedd pelen y batiad, wedi’i ddal gan y wicedwr Ben Foakes oddi ar fowlio Morne Morkel.

Ac fe ddilynodd Aneurin Donald saith pelen yn ddiweddarach, wedi’i fowlio gan Sam Curran wrth lusgo pelen lydan yn ôl ar ei wiced.

Daeth achubiaeth i’r Cymry am gyfnod diolch i Connor Brown a’r capten Colin Ingram, wrth iddyn nhw sgorio 85 mewn 18 o belawdau am y drydedd wiced cyn i Ingram sgubo’r troellwr Gareth Batty, a darodd goes y batiwr o flaen y wiced am 44.

Dilynodd David Lloyd yn fuan wedyn, wedi’i ddal ar y ffin oddi ar fowlio Morne Morkel.

Ychwanegodd Connor Brown a Kiran Carlson 65 am y bumed wiced i achub y batiad unwaith eto, cyn i Rikki Clarke daro coes Carlson o flaen y wiced am 33.

Cafodd Chris Cooke ei ddal gan Will Jacks oddi ar fowlio Sam Curran am 21 wrth ergydio’n sgwâr ar ochr y goes, a Morgannwg yn 204 am chwech erbyn hynny gyda phum pelawd yn unig o’r batiad yn weddill.

Tarodd Graham Wagg 35 oddi ar 18 o belenni yn hwyr yn y batiad cyn i Connor Brown ergydio’n wyllt wrth fynd am ei ganred, a chael ei ddal gan Jason Roy oddi ar fowlio Rikki Clarke am 98.

Ymateb y Saeson

Wrth ymateb, tarodd Will Jacks a Jason Roy 77 mewn 8.3 o belawdau yn ystod y cyfnod clatsio cyntaf ar ôl colli Mark Stoneman yn y belawd gyntaf.

Cyrhaeddodd Jacks ei hanner canred oddi ar 30 o belenni cyn i’r troellwr o Sir Benfro, Andrew Salter orfod ceisio arafu’r sgorio. Fe lwyddodd i raddau, wrth fowlio Jason Roy am 23 gyda’i ail belen, a’r Saeson yn 84 am ddwy.

Ac fe ddilynodd Will Jacks yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan Andrew Salter am 80 ar ôl taro 12 pedwar.

Ar ôl hynny, yn nwylo’r capten Rory Burns a Ben Foakes yr oedd tynged Swydd Surrey, a’r ddau wedi taro 79 rhyngddyn nhw oddi ar 14 o belawdau. Erbyn iddo golli ei wiced, roedd Burns wedi taro 68 oddi ar 69 o belenni, a’i bartner allan am 30.

Ychwanegodd Ollie Pope a Sam Curran 51 am y chweched wiced, wrth arwain eu tîm i’r fuddugoliaeth gyda 9.2 o belawdau’n weddill. Roedd Pope heb fod allan am 31, a Curan heb fod allan am 22.

Dyw’r fuddugoliaeth ddim yn ddigon i Swydd Surrey gyrraedd rownd yr wyth olaf ar ôl i Swydd Essex guro Swydd Gaint.