Fe fydd chwaraewr tramor Morgannwg ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd, hefyd yn chwarae iddyn nhw yn y Bencampwriaeth am dair gêm.

Roedd disgwyl i Usman Khawaja chwarae yn y gystadleuaeth ugain pelawd yn unig, cyn dychwelyd cyn y gêm olaf yn erbyn Swydd Surrey ar gyfer taith Awstralia A i India.

Ond fe fydd e hefyd yn chwarae mewn tair gêm Bencampwriaeth tra bod y batiwr tramor a’i gydwladwr, Shaun Marsh ar daith gydag Awstralia i Gymru a Lloegr.

Bydd Usman Khawaja bellach ar gael ar gyfer y gemau yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston, Swydd Derby yn Abertawe a Swydd Northampton yng Nghaerdydd.

‘Cricedwr talentog iawn’

“Rydym wedi bod yn trafod gyda chorff Criced Awstralia ac Usman fyth ers i Shaun gael ei alw i dîm undydd Awstralia ac rydym wrth ein bodd y bydd e’n ymuno â ni’n gynnar fel eilydd,” meddai Hugh Morris, Prif Weithredwr Morgannwg.

“Mae Usman yn gricedwr talentog iawn a chanddo fe record wych mewn gemau prawf ac rwy’n sicr y bydd e’n gwneud gwaith da wrth ddod i mewn yn lle Shaun ac y bydd e’n ddylanwad positif ar y garfan ifanc.”