Mae Hampshire wedi curo Morgannwg o bedair wiced yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London ar gae San Helen yn Abertawe.

Sgoriodd capten Morgannwg, Colin Ingram 64 wrth i’r Cymry sgorio 227 a chael eu bowlio allan oddi ar 48.4 o belawdau.

Cipiodd y troellwr coes Mason Crane bedair wiced am 46 i’r Saeson, ac roedd tair wiced hefyd i’r troellwr Gareth Berg am 46.

Adeiladodd Gareth Berg (54 heb fod allan) a Brad Taylor (52 heb fod allan) bartneriaeth o 85 i arwain y Saeson i fuddugoliaeth o bedair wiced gyda 6.4 o belawdau’n weddill.

Manylion

Ar ddiwrnod crasboeth o haf ar lan y môr, galwodd Swydd Hampshire yn gywir a gwahodd Morgannwg i fatio.

Roedden nhw’n 48 am un ar ôl 11.4 o belawdau wrth i Aneurin Donald gael ei ddal ar ymyl y cylch ar yr ochr agored gan Jimmy Adams oddi ar fowlio Gareth Berg am 24.

Roedd y Cymry’n 66 am ddwy pan gafodd Nick Selman ei ddal gan y wicedwr Lewis McManus oddi ar fowlio’r troellwr coes Mason Crane yn yr ail belawd ar bymtheg.

Roedden nhw’n 68 am dair o fewn pedair pelen wrth i David Lloyd gael ei ddal gan Gareth Berg oddi ar ei fowlio’i hun am naw.

Roedden nhw’n 83 am bedair pan gafodd Kiran Carlson ei ddal gan Brad Taylor yn gyrru ar yr ochr agored oddi ar fowlio Crane am un yn yr unfed belawd ar hugain.

Ychwanegodd Chris Cooke a Colin Ingram 37 at y cyfanswm am y bumed wiced cyn i Cooke gael ei ddal gan y troellwr Brad Taylor oddi ar ei fowlio’i hun am 12, a Morgannwg yn 120 am bump yn y degfed pelawd ar hugain.

Llygedyn o obaith

Wrth i’r capten Colin Ingram geisio achub y batiad, fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 52 o belenni, gan daro pum pedwar a dau chwech wrth gyrraedd y garreg filltir.

Ychwanegodd e drydydd chwech ond roedd ei bedwerydd ymgais yn aflwyddiannus wrth iddo fe gael ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Gareth Berg oddi ar fowlio Mason Crane am 64, a Morgannwg yn 176 am chwech.

Dwy belen yn ddiweddarach, cafodd Andrew Salter ei ddal gan y bowliwr, a’i dîm yn 177 am saith.

Gorffennodd Mason Crane ei ddeg pelawd gyda phedair wiced am 46, a’i bedair wiced wedi dod oddi ar pelenni digon llac.

Ond parhau i gwympo wnaeth y wicedi, wrth i Graham Wagg daro Brad Taylor yn syth i Reece Topley ar y ffin agored am 36, a Morgannwg yn 195 am wyth.

Aeth 195 am wyth yn 197 am naw pan darodd Ruaidhri Smith y bêl at James Vince ar ymyl y cylch ar yr ochr agored oddi ar fowlio Gareth Berg am 14, oedd wedi gorffen gyda thair wiced am 46.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Lukas Carey ei fowlio gan Chris Wood am 12, a Morgannwg i gyd allan am 227.

Ymateb y Saeson

Wrth gwrs 228 i ennill, collodd Swydd Hampshire eu wiced gyntaf ar ôl i Rilee Rossouw gael ei ddal ar ochr y goes wrth daro’r bêl i’r awyr at Aneurin Donald oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Ac fe gollon nhw eu hail wiced pan ddaliodd Nick Selman ddaliad campus oddi ar yr un bowliwr am 27, a’r ymwelwyr yn 56 am ddwy.

Pan ddaeth James Vince i’r llain, tarodd e ddau bedwar oddi ar Lukas Carey cyn taro Ruaidhri Smith am dri phedwar i roi’r pwysau ar fowlwyr Morgannwg o’r dechrau’n deg.

Sgoriodd 41 cyn i’r troellwr Andrew Salter daro’i goes o flaen y wiced, ac roedd yr ymwelwyr yn 88 am dair.

Dilynodd Jimmy Adams yn fuan wedyn, wrth iddo fe gael ei fowlio gan David Lloyd am bedwar, a’r Saeson yn 93 am bedair.

Ychwanegodd Joe Weatherley a Brad Taylor 35 at y cyfanswm cyn i Weatherley gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Graham Wagg am 31, a’r Saeson yn 128 am bump.

Daeth rhagor o lwyddiant i Forgannwg yn y nawfed pelawd ar hugain, wrth i Lewis McManus gael ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio Graham Wagg am naw, a’i dîm yn 144 am chwech.

Ond fe ddaeth y trobwynt wrth i Gareth Berg a Brad Taylor gosbi Morgannwg gyda phartneriaeth dyngedfennol o 85 am y seithfed wiced.

Cyrhaedodd Berg ei hanner canred wrth daro’r ergyd fuddugol am bedwar, a’r Saeson yn ennill o bedair wiced.