Ddeuddydd ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn erbyn Swydd Sussex yng Ngerddi Sophia Caerdydd nos Wener, bydd Morgannwg yn croesawu Hampshire i gae San Helen yn Abertawe heddiw (11 o’r gloch).

Hon yw’r gêm gyntaf o ddwy fydd yn cael eu cynnal ar y cae ar lan y môr y tymor hwn, gyda’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yn dechrau ar Fehefin 20.

Mae’r criced yn dychwelyd unwaith eto i ail ddinas Cymru diolch yn bennaf i ymdrechion Orielwyr San Helen a’u cadeirydd John Williams, sy’n weithgar dros sicrhau dyfodol criced yn y de orllewin.

Er bod Morgannwg allan o’r gystadleuaeth eisoes, mae eu gwrthwynebwyr Hampshire ar frig y tabl gyda dwy gêm yn weddill.

Gemau’r gorffennol

Y tro diwethaf i’r ddwy sir herio’i gilydd yn Abertawe yn 2016, yr ymwelwyr oedd yn fuddugol o 186 o rediadau wrth i Liam Dawson daro canred cyn i Gareth Berg a Ryan McLaren gipio pedair wiced yr un wrth i’r Cymry gwrso 317 i ennill.

Yn y gystadleuaeth 50 pelawd yn 2007, y Saeson oedd yn fuddugol unwaith eto, a hynny o 137 o rediadau. Bryd hynny, tarodd Michael Lumb, Nic Pothas a Dimitri Mascarenhas hanner canred yr un cyn i Stuart Clark gipio pedair wiced.

Yn wir, dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Hampshire mewn gêm undydd yn Abertawe ers 1993 ar eu ffordd i ennill y gynghrair undydd. Bryd hynny, tarodd prif weithredwr presennol Morgannwg, Hugh Morris 81 a Tony Cottey 75 wrth i’r Cymry ennill o chwe wiced.

Symud ymlaen 

Tua diwedd cystadleuaeth siomedig i Forgannwg, mae’r capten Colin Ingram o’r farn y bydd ysbryd y garfan yn aros yn gryf tan ddiwedd y gystadleuaeth yn dilyn y fuddugoliaeth dros Swydd Sussex.

Ar drothwy’r ornest yn erbyn Swydd Hampshire, dywedodd: “O safbwynt criced, mae hi bob amser yn anodd pan y’ch chi’n colli gemau ond ry’n ni’n ffodus fod gyda ni griw gwych o fois yma, a bois sydd wir yn mwynhau chwarae gyda’i gilydd.

“Oddi ar y cae, ry’n ni wedi cael trafodaethau da. Ry’n ni’n griw hwyliog ac yn mwynhau cwmni ein gilydd. Dyna’r egni oedd gan y bois, ac fe ddaeth hynny i’r amlwg.”

Morgannwg: N Selman, A Donald, C Ingram (capten), K Carlson, D Lloyd, C Cooke, G Wagg, A Salter, R Smith, T van der Gugten, L Carey

Swydd Hampshire: T Alsop, J Adams, R Rossouw, J Vince (capten), J Weatherley, B Taylor, G Berg, L McManus, M Crane, C Wood, R Topley

Sgorfwrdd