Swydd Sussex yw gwrthwynebwyr Morgannwg yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yng Ngerddi Sophia Caerdydd heddiw.

Mae gobeithion y Cymry yn y gystadleuaeth hon ar ben tra bod y Saeson yn un o chwe sir sydd â chwe phwynt yr un ac yn mynd am le yn y rownd nesaf.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2016, y tro diwethaf i Swydd Sussex ymweld â’r brifddinas, a hynny o 84 o rediadau diolch i hanner canred yr un i Aneurin Donald a Chris Cooke, cyn i Michael Hogan gipio pedair wiced am 41.

Dydy Swydd Sussex ddim wedi curo Morgannwg yng Nghymru ers 2006.

Mae Morgannwg heb eu batiwr tramor Shaun Marsh, sydd wedi ymuno â charfan Awstralia ar gyfer eu taith i Loegr. Ond mae’r batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson yn dychwelyd ar ôl gorffen ei flwyddyn academaidd yn y brifysgol.

 Morgannwg: N Selman, A Donald, C Brown, C Ingram (capten), D Lloyd, K Carlson, C Cooke, G Wagg, A Salter, T van der Gugten, L Carey

 Swydd Sussex: L Wright, H Finch, B Brown (capten), L Evans, M Burgess, D Wiese, J Archer, C Jordan, D Briggs, I Sharma

 Sgorfwrdd