Mae Morgannwg wedi colli o 83 o rediadau yn erbyn Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn Taunton, mewn gêm lle cafodd 661 o rediadau eu sgorio.

Sgoriodd y tîm cartref 372 am saith, wrth i James Hildreth daro 159 oddi ar 125 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys 13 pedwar ac wyth chwech mewn 164 o funudau wrth y llain. Hwn yw ei sgôr gorau erioed mewn gêm 50 pelawd.

Adeiladodd e bartneriaeth o 98 gyda Peter Trego, a darodd 56 hefyd wrth i’r Saeson sicrhau bod gan fatwyr Morgannwg dalcen caled o’r dechrau’n deg.

Ond fe allai fod wedi bod yn dra gwahanol pe bai Hildreth wedi cael ei ddal gan Jack Murphy ar 63. Fe aeth ymlaen i adeiladu partneriaeth o 86 gyda Tom Abell.

Wrth gwrso 373 am y fuddugoliaeth, dechrau digon araf gafodd agorwyr Morgannwg, Nick Selman a Jack Murphy cyn i Colin Ingram daro 85 oddi ar 70 o belenni wrth adeiladu partneriaeth o 63 gyda Shaun Marsh.

Cafwyd ymdrech lew gan Marchant de Lange wrth iddo fe daro 40 oddi ar 28 o belenni, ond doedd hynny ddim yn ddigon wrth i’r Saeson gipo buddugoliaeth gyfforddus i adael Morgannwg yn waglaw ar ôl eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.

Mae Morgannwg yn dychwelyd i Gaerdydd ddydd Mercher i herio Swydd Middlesex.