Roedd siom i Forgannwg ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road neithiwr wrth iddyn nhw golli o dri rhediad.

Dyma fuddugoliaeth gynta’r Saeson ers 2016 ac ers 19 o gemau.

Doedd 90 gan Marchant de Lange, oedd yn cynnwys wyth chwech, ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth ar ddiwedd diwrnod cyffrous o griced. Mae’r ergydion i’r ffin yn ei osod yn bedwerydd ar y rhestr o ergydion am chwech gan fatiwr Morgannwg mewn batiad – dim ond Aneurin Donald, Graham Wagg a Malcolm Nash sydd wedi sgorio mwy ohonyn nhw.

Roedd gan Forgannwg nod o 251 i ennill ac roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion ar 139 am wyth ond fe ychwanegodd Marchant de Lange a Timm van der Gugten 56 am y nawfed wiced.

Adeiladodd Marchant de Lange a’i gapten Michael Hogan bartneriaeth o 52 am y wiced olaf hefyd ond daeth yr ornest i ben wrth iddo fynd am nawfed chwech a chael ei ddal ar y ffin gan Callum Parkinson oddi ar fowlio Ben Raine.

Y Saeson

 Roedd y Saeson yn 119 am ddwy ar ddechrau’r dydd ond fe gollon nhw bedair wiced am gyfanswm o 23 o rediadau.

Ond brwydrodd Ben Raine i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 61 o belenni i roi llygedyn o obaith i’r tîm cartref.

Wrth gwrso’r nod, roedd Morgannwg dan bwysau o’r dechrau’n deg, a diffyg profiad y batwyr yn amlygu ei hun yn weddol fuan yn y batiad, ac roedden nhw’n dechrau dibynnu ar y bowlwyr i fatio’u ffordd i’r fuddugoliaeth.

Roedd y gêm ar ben, i bob pwrpas, pan ddaeth Marchant de Lange i’r llain ac fe gollodd ei bartner Timm van der Gugten i fynd â’r gêm i’r wiced olaf un.

Roedd Morgannwg un ergyd i’r ffin i ffwrdd o’r fuddugoliaeth yn y pen draw.

Ymateb Morgannwg

Wrth ymateb i’r golled, dywedodd Marchant de Lange: “Yn amlwg dw i ychydig yn siomedig! Ro’n i wedi bod yn ei tharo hi’n dda ond daeth hi i lawr i un belen, a doedd hi ddim wedi mynd o’n plaid ni. Ond roedd y batiad yn beth braf i fi.

“Pan y’ch chi mor bell allan o’r gêm, ry’ch chi’n ceisio bod yn bositif a chreu rhywbeth allan o ddim byd. Wnes i drio cael y bat ar y bêl a gweld sut aeth hi, ac roedd hi’n braf rhoi cyfle i ni ennill.

“Mae’n gas gyda fi golli, boed hynny o gant o rediadau neu o dri rhediad – yr un yw’r teimlad. Rhaid i ni edrych arnon ni’n hunain nawr a cheisio gwella.”

Ychwanegodd y prif hyfforddwr, Robert Croft nad oedd ei dîm yn haeddu ennill, ond fod Marchant de Lange wedi cael batiad “arbennig”.

“Ry’n ni i gyd yn gwybod ei fod e’n gallu bwrw’r bêl yn dda, ond am gymaint o amser – a’r bêl oedd yno iddo fe ar gyfer yr ergyd fwyaf oll, y belen lawn, oedd y belen pan aeth e ma’s. Dw i’n teimlo mor flin drosto fe.”

Ond dywedodd y byddai’r golled yn ysgogi’r chwaraewyr ifanc yn y tîm i wella – a phedwar ohonyn nhw o dan 22 oed.

“Mae’n nhw’n dysgu’r gêm a rhaid i ni ddeall hynny.”