Fe fydd Morgannwg yn gobeithio gwneud yn iawn am y golled i Swydd Gaint wrth iddyn nhw deithio i Grace Road heddiw i herio Swydd Gaerlŷr yn y Bencampwriaeth.

Colli o chwe wiced oedd eu hanes yr wythnos ddiwethaf, sy’n eu gadael nhw’n bumed yn yr ail adran ar ôl tair gêm.

Mae’r Saeson heb fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth ers mis Medi 2016 – daeth y fuddugoliaeth annisgwyl honno yn erbyn Morgannwg yn Grace Road, wrth i’r Cymry golli chwe wice am ddeg rhediad o fewn 26 o belenni.

Gêm gyfartal gawson nhw y tymor diwethaf, wrth i Aneurin Donald daro 66 heb fod allan i achub y gêm ar y prynhawn olaf.

Dydy Morgannwg ddim wedi ennill yn Grace Road ers 2010.

Swydd Gaerlŷr: M Carberry (capten), V Aaron, C Ackermann, M Cosgrove, N Dexter, G Griffiths, L Hill, P Horton, A Javid, D Klein, C Parkinson, B Raine.

 Morgannwg: M Hogan (capten), N Selman, J Murphy, S Marsh, K Carlson, A Donald, C Cooke, D Lloyd, A Salter, L Carey, M de Lange, T van der Gugten, R Smith.

 

Sgorfwrdd