Fe fydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw ddechrau’r wythnos wrth iddyn nhw deithio i Lord’s i herio Swydd Middlesex yn eu hail gêm yn y Bencampwriaeth heddiw.

Mae’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith wedi’i ychwanegu at y deuddeg a deithiodd i Fryste. Mae hynny’n golygu bod naw o’r deuddeg wedi dod drwy rengoedd y sir.

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae gêm Bencampwriaeth yn Lord’s ers 2011, pan gawson nhw fuddugoliaeth o naw wiced. Doedd neb o’r garfan bresennol yn y garfan honno.

Dywedodd bowliwr cyflym Morgannwg, Marchant de Lange: “Dw i’n credu y bydd hi’n gêm wych. Os cadwn ni at y pethau sylfaenol ac adeiladu ar y seiliau sydd yma eisoes ac os ydyn ni’n parhau i wneud hynny, fe wnawn ni’n dda yn y gystadleuaeth hon. Mae yna ymdeimlad da yn y garfan.

“A throi at yr hen ddihareb, ry’n ni am barhau i adeiladu momentwm ac ry’n ni’n ceisio creu diwylliant o ennill. Os yw pob dyn yn rhoi o’i orau ac yn gwthio i fod mor llwyddiannus ag y gall fod, yna dw i’n credu y gallwn ni gael tymor da.”

Y gwrthwynebwyr

Yng ngharfan Swydd Middlesex mae’r capten newydd, Dawid Malan, ond mae amheuon am ffitrwydd y bowlwyr cyflym Tim Murtagh a Toby Roland-Jones.

Dechrau digon cymysg gafodd y Saeson i’r tymor, wrth guro Swydd Northampton yn Lord’s cyn colli o 101 o rediadau oddi cartref yn erbyn Swydd Derby.

Ac fe gafodd tri o’u bowlwyr cyflym – Tim Murtagh, Toby Roland-Jones a chyn-fowliwr Morgannwg James Harris – anafiadau sy’n golygu y gallen nhw fod ar y cyrion ar gyfer y gêm yn erbyn Morgannwg.

Gemau’r gorffennol

Enillodd Morgannwg eu gemau yn 2010 a 2011 – a’r gyntaf ohonyn nhw’n gweld Morgannwg yn ennill gêm Bencampwriaeth yn Lord’s am y tro cyntaf ers 1954.

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn Lord’s ers iddyn nhw golli o 87 rhediad yn erbyn Swydd Nottingham yn rownd derfynol Cwpan Yorkshire Bank40 – y gystadleuaeth undydd. Dim ond tri aelod o’r garfan honno sy’n debygol o chwarae yr wythnos hon – y capten Michael Hogan, y troellwr Andrew Salter a’r wicedwr Chris Cooke.

Carfan Swydd Middlesex: D Malan (capten), T Barber, H Cartwright, S Eskinazi, J Franklin, T Helm, M Holden, T Murtagh, O Rayner, S Robson, G Scott, J Simpson, P Stirling

Carfan Morgannwg: M Hogan (capten), N Selman, J Murphy, S Marsh, K Carlson, A Donald, C Cooke, D Lloyd, A Salter, L Carey, M de Lange, T van der Gugten, R Smith

Sgorfwrdd