Mae Morgannwg wedi curo Swydd Gaerloyw o chwe wiced ym Mryste i ennill gêm gynta’r tymor am y tro cyntaf ers iddyn nhw guro Swydd Surrey ar gae’r Oval yn 2014.

Wrth gwrso 83 am y fuddugoliaeth oddi ar 21 o belawdau, cyrhaeddon nhw’r nod gyda mwy nag wyth pelawd yn weddill.

Crynodeb

Dechreuodd Swydd Gaerloyw ar 133-5 ar y diwrnod olaf, 157 o rediadau ar ei hôl hi. Ond manteisiodd y batwyr ar ddiffyg cymorth i’r bowlwyr yn gynnar yn y dydd. Cyrhaeddodd Ryan Higgins a James Bracey ill dau eu hanner cant o fewn hanner awr cynta’r dydd, wrth i Michael Hogan a Marchant de Lange frwydro ar lain heb lawer o gymorth iddyn nhw.

Ond fe gawson nhw rywfaint o lwyddiant yn fuan ar ôl i’r batwyr adeiladu partneriaeth o gant, wrth i Hogan daro coes Higgins o flaen y wiced am 61, ei sgôr gorau erioed. Dilynodd Shaun Marsh yn dynn ar ei sodlau heb sgorio, wedi’i ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio Dan Worrall, a Morgannwg yn 56 am ddwy.

Roedd hi’n ymddangos fel pe bai Bracey wedi cael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Shaun Marsh oddi ar fowlio Hogan am 57, ond roedd digon o amheuaeth i’r batiwr gael goroesi. Ond aeth Kieran Noema-Barnett yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan Lukas Carey oddi ar ymyl ei fat am 12. Erbyn hynny, roedd Swydd Gaerloyw’n 205 am saith, ar ei hôl hi o 85 o rediadau o hyd.

Arhosodd James Bracey (68 heb fod allan) a Dan Worrall (23 heb fod allan) yn gadarn i gyrraedd 239 am saith erbyn amser cinio, 51 o rediadau ar ei hôl hi.

Sesiwn y prynhawn

Fe lwyddon nhw i oroesi’r hen bêl cyn i Hogan a de Lange ddychwelyd i’r ymosod gyda’r bêl newydd ar ôl cinio.

Bum rhediad oedd eu hangen i orfodi Morgannwg i fatio eto pan gafodd Dan Worrall ei fowlio gan Lukas Carey am 50, a Swydd Gaerloyw â cefnau at y wal ar 285 am wyth. Ond fe lwyddon nhw i fynd y tu hwnt i sgôr Morgannwg, gan orfodi’r Cymry i fatio eto i fod â gobaith o ennill.

Cyrhaeddodd James Bracey ei ganred gyda batiad dygn oddi ar 274 o belenni wrth i Swydd Gaerloyw ymestyn eu mantais a chynyddu eu gobeithion o sicrhau gêm gyfartal. Erbyn amser te, roedd y Saeson yn 340-8, ar y blaen i Forgannwg o 50 o rediadau.

Y sesiwn olaf

Daeth wiced fawr i Forgannwg yn y sesiwn olaf, wrth i’r wicedwr Chris Cooke ddal Matt Taylor oddi ar Andrew Salter am 48. Roedd Swydd Gaerloyw’n 362 am naw, 72 o rediadau ar y blaen gydag un wiced yn weddill.

Cwympodd y wiced olaf wrth i Liam Norwell, oedd yn dibynnu ar redwr, gael ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Hogan am un, a’r nod i Forgannwg oedd 83 oddi ar 21 o belawdau.

Adeiladodd Jack Murphy a Nick Selman bartneriaeth o 51 mewn ychydig yn llai nag wyth pelawd cyn i Murphy gael ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Matt Taylor am 18.

Dilynodd Shaun Marsh yn fuan wedyn heb sgorio, wedi’i ddal gan y wicedwr oddi ar Dan Worrall, a Morgannwg yn 56-2.

Tynnodd Kiran Carlson a Nick Selman ill dau y bêl i’r maeswr ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Matt Taylor, a Morgannwg yn llithro i 67-4.

Ond daeth y fuddugoliaeth gyda mwy nag wyth pelawd yn weddill wrth i Aneurin Donald daro chwech.

Adroddiad: diwrnod 3

Adroddiad: diwrnod 2

Adroddiad: diwrnod 1