Mae tîm criced Morgannwg yn dechrau eu tymor heddiw gyda thaith i Fryste i herio Swydd Gaerloyw mewn gêm pedwar diwrnod yn y Bencampwriaeth.

Dyma dymor llawn cynta’r capten Michael Hogan wrth y llyw, ar ôl iddo gael ei benodi hanner ffordd trwy’r tymor diwethaf yn dilyn ymddiswyddiad, ac yna ymadawiad Jacques Rudolph.

Yn dychwelyd i Forgannwg y tymor hwn mae cydwladwr y capten, Shaun Marsh, a dreuliodd gyfnod gyda’r Cymry yn 2012 ac a gafodd Gyfres y Lludw lwyddiannus gydag Awstralia dros y gaeaf.

Ymhlith y garfan o ddeuddeg o chwaraewyr ar gyfer yr ornest mae wyth o chwaraewyr a ddaeth drwy rengoedd y sir. Yn eu plith mae prif sgoriwr rhediadau’r sir yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, Nick Selman. Tarodd yr Awstraliad bedwar canred y tymor diwethaf.

Gêm gyfartal gafodd Morgannwg a Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd ddiwedd y tymor diwethaf, wrth i’r batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson daro 191 – naw rhediad i ffwrdd o fod y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred dwbl i’r sir.

Lukas Carey

Un o chwaraewyr ifainc Morgannwg sy’n gobeithio creu argraff y tymor hwn yw’r bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y tymor diwethaf, ac mae’n anelu am hanner cant o wicedi yn y Bencampwriaeth eleni – nod sy’n realistig, meddai wrth golwg360.

“Hoffwn i gipio cynifer o wicedi ag y galla i, ond y nod yw hanner cant. Ar ôl y llynedd, dw i’n teimlo fel fy mod i wedi gwella dros y gaeaf o ran fy nghysondeb, felly gobeithio y galla i gyrraedd y nod o hanner cant o wicedi.”

Carfan Swydd Gaerloyw: C Dent (capten), B Howell, G Roderick, J Bracey, J Taylor, G van Buuren, R Higgins, K Noema-Barnett, C Miles, M Taylor, D Worrall, L Norwell.

Carfan Morgannwg: M Hogan (capten), N Selman, J Murphy, S Marsh, K Carlson, A Donald, C Cooke, D Lloyd, A Salter, L Carey, M de Lange, T van der Gugten

 

Sgorfwrdd