Fe fydd crysau tîm criced Morgannwg ar gyfer tymor 2018 yn cynnwys enwau holl glybiau criced Cymru.

Arwyddair answyddogol Morgannwg yw ‘Gwneud Cymru’n falch’ ac fe fydd eu crysau ar gyfer gemau undydd yn adlewyrchu hynny wrth gario enwau’r 194 o glybiau lleol ym mhob cwr o’r wlad.

Bydd y Ddraig Goch hefyd i’w gweld ar goler y crysau.

Dywedodd Prif Weithredwr y sir, Hugh Morris fod y clwb yn “falch iawn” o’r cit newydd.

“Roedd llawer o’n chwaraewyr presennol a chyn-chwaraewyr wedi datblygu trwy eu systemau, ac rydym wrth ein bodd o gael cydnabod hynny.

“Rydym yn teimlo’n angerddol iawn am gefnogi criced ar lawr gwlad yng Nghymru a thrwy enwi pob clwb yng Nghymru’n unigol, mae’n trwytho ym mhob chwaraewr, clwb a chefnogwr yn y wlad bwysigrwydd perfformio’n dda yn y tîm.”

Ymestyn cytundeb yr is-gapten newydd

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad mai Chris Cooke yw is-gapten newydd y clwb.

Daeth y newyddion ar y diwrnod y gwnaeth y wicedwr ymestyn ei gytundeb gyda’r sir, fydd yn ei gadw yn y Swalec tan 2021.

Roedd e ar frig rhestr cyfartaleddau batio’r sir y tymor diwethaf yn y Bencampwriaeth, ac roedd yn berfformiwr cyson mewn gemau undydd hefyd.

“Dw i wedi mwynhau fy saith mlynedd ddiwethaf gyda Morgannwg yn fawr iawn, a dw i’n hapus iawn i ymroi i’r clwb yn y dyfodol.

“Mae gyda ni garfan dda ac os allwn ni barhau i adeiladu o amgylch pileri profiad gyda’r doniau Cymreig ifainc sy’n dod drwy ein rhaglen ddatblygu, fe fydd dyfodol disglair o’n blaenau.”

Dywed Hugh Morris fod Chris Cooke yn “un o’r batwyr-wicedwyr mwyaf talentog yn y gêm sirol” ac yn “esiampl yn yr ystafell newid”.