Mae mwy o ferched na dynion ar restr Cricedwyr y Flwyddyn Wisden am y tro cyntaf erioed.

Mae tair merch ar y rhestr o bump, gan gydnabod llwyddiant tîm Lloegr wrth ennill Cwpan y Byd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Y rhai sydd wedi’u gwobrwyo yw’r capten Heather Knight, Natalie Scriver ac Anya Shrubsole.

Mae Jamie Porter (Swydd Essex) a Shai Hope (India’r Gorllewin) hefyd ar y rhestr.

Dim ond dwy ferch arall sydd wedi ymddangos ymhlith yr enillwyr mewn 129 o flynyddoedd – Claire Taylor yn 2009 a Charlotte Edwards yn 2014 – ac felly, dyma’r tro cyntaf i fwy nag un ferch ymddangos ar y rhestr yn ystod yr un flwyddyn.

Ac Anya Shrubsole, seren rownd derfynol Cwpan y Byd wrth gipio chwe wiced yn  y fuddugoliaeth yn erbyn India, yw’r ferch gyntaf erioed i ymddangos ar glawr y gyfrol Wisden Almanack.