Mae’r Cymro ifanc o Abertawe, Aneurin Donald yn dweud ei fod yn ysu am gael gweithio gydag un o hoelion wyth Clwb Criced Morgannwg, Matthew Maynard sydd wedi’i benodi’n ymgynghorydd batio’r sir ar gyfer tymor 2018.

Meithrin doniau’r to iau yw polisi Morgannwg, a’r batiwr ifanc a phenodi Matthew Maynard i’w rôl newydd yn greiddiol i’r polisi hwnnw. Fe fydd yr hyfforddwr yn treulio can niwrnod y flwyddyn yn cydweithio â’r batwyr, ac mae Aneurin Donald o’r farn fod ei ddylanwad yn amlwg eisoes.

“Mae’n debyg mai dyma’r amser cywir i ymgynghorydd batio ymuno â’r grŵp,” meddai’r batiwr 21 oed a fydd yn ceisio gwella ar ei 487 o rediadau mewn 11 o gemau yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

“Mae cael ei arweiniad a’i brofiad fel chwaraewr a hyfforddwr, ac yn enwedig fel cyd-Gymro, yn beth braf ac yn rhywbeth ry’n ni’n ffodus iawn o’i gael.

“Ry’n ni’n gwneud ein gorau i dynnu ar ei wybodaeth o’r gêm sirol a sut mae bod yn llwyddiannus. Gobeithio y bydd e’n chwarae rhan bwysig wrth ein harwain ni, yn enwedig y batwyr, i anrhydeddau pellach.”

‘Cyfrifoldeb’

Yn ôl Aneurin Donald, fe fydd y batwyr yn canolbwyntio’r tymor hwn ar gymryd mwy o gyfrifoldeb.

“Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i ni’n hunain o’r dechrau’n deg, wynebu mwy o belenni, er mai criw ifanc ydyn ni. A gwneud mwy o gyfraniadau wedyn all ennill gemau, sy’n dueddol o olygu taro canred mewn gemau pedwar diwrnod. Dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi gwneud hynny ddigon yn ddiweddar.”

Fe fydd cystadleuaeth newydd am lefydd ymhlith y batwyr yn sgil ymddeoliad Jacques Rudolph, a phenderfyniad Colin Ingram i chwarae mewn gemau undydd yn unig. Ac mae Aneurin Donald yn barod i gystadlu am un o’r llefydd hynny ar ôl taro hanner canred yn erbyn Swydd Surrey yn Dubai.

“Mae angen i ni wthio’r garfan i’r lefel nesaf a chael y bechgyn yn ysu i fwrw ati a pherfformio ar y cae, nid dim ond yn y rhwydi, a gobeithio rhoi ychydig o ben tost i’n dewiswyr.”

‘Dim esgusodion’

Mae’r arwyddion yn bositif yn dilyn y daith i Dubai, sydd wedi bod yn ffordd ffres o baratoi at y tymor newydd.

“Dw i ddim yn credu y gallwn ni edrych yn ôl a dweud ein bod ni wedi dechrau’n dda [dros y tymhorau diwethaf], yn enwedig yn y Bencampwriaeth,” meddai wedyn.

“Dw i’n meddwl mai bwriad y daith cyn dechrau’r tymor oedd sicrhau nad oedd gyda ni ddim esgusodion a’n bod ni wedi rhoi sylw i bopeth cyn bore cynta’r tymor.”

Perfformio a darganfod rhythm oedd y flaenoriaeth iddo yn ystod y daith, lle chwaraeon nhw mewn gemau undydd a phedwar diwrnod yn erbyn Swydd Surrey a Swydd Gaerhirfryn. Y tymor hwn yw’r tymor llawn cyntaf i’r capten newydd, Michael Hogan.

“Mae [y daith] yn rhywbeth dyn ni ddim wedi ei chael ers sawl tymor, a chael chwarae gemau yn erbyn timau sirol cyn dechrau’r tymor, ac eithrio ambell gêm sydd wedi cael ei gwasgu i mewn yn ystod tywydd braf.

“Gobeithio y bydd y cyfan oll yn amlwg yn ystod y gemau cyntaf yn y Bencampwriaeth.”