LMae adroddiadau bod dau o gricedwyr Awstralia wedi’u gwahardd am flwyddyn am eu rhan mewn helynt yn ymwneud ag ymyrryd â chyflwr y bêl.

Cafodd Cameron Bancroft ei ddal ar gamera yn rhoi tâp a llwch ar y bêl mewn ymgais i roi mantais i fowlwyr y tîm mewn gêm brawf yn erbyn De Affrica. Mae lle i gredu ei fod e wedi’i wahardd am naw mis.

Ond y ddau sydd wedi’u cosbi’n fwyaf llym yw’r capten Steve Smith a’r is-gapten David Warner, a hynny ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw’n rhan o’r cynllwyn.

Mae disgwyl cadarnhad ynghylch y gwaharddiadau gan Fwrdd Criced Awstralia heddiw.

Mae’r triawd ar eu ffordd adre’ o’r daith i Dde Affrica, a bydd Matt Renshaw, Glenn Maxwell a Joe Burns yn ymuno â’r garfan yn eu lle ar gyfer gêm ola’r gyfres.

Tim Paine sydd wedi’i enwi’n gapten.