Mae’r bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg tan 2020.

Mae e ymhlith triawd o fowlwyr cyflym y sir sydd wedi llofnodi cytundebau newydd. Mae’r capten yn y Bencampwriaeth, Michael Hogan wedi cael blwyddyn o estyniad tan 2019, a’r Iseldirwr Timm van der Gugten wedi cael estyniad o ddwy flynedd tan 2020.

Daeth Lukas Carey i amlygrwydd ar lefel sirol yn 2016 wrth gipio saith wiced yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton ar gae San Helen yn Abertawe, ac yntau’n 19 oed ar y pryd.

Yn ei dymor llawn cyntaf y tymor diwethaf, fe gipiodd e 35 o wicedi yn y Bencampwriaeth ar gyfartaledd o 30, ac fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y sir.

Chwaraeodd yn ei gemau undydd cyntaf y tymor diwethaf, gan gipio wiced gyda’i belen gyntaf yn erbyn Swydd Surrey ar gae’r Oval.

“Morgannwg oedd clwb fy mhlentyndod ac fe ges i fy magu’n cefnogi’r tîm ac felly dw i wrth fy modd o gael llofnodi cytundeb newydd,” meddai.

“Dw i’n teimlo bod fy mowlio wedi datblygu’n fawr dros y flwyddyn ddiwethaf o dan yr hyfforddwyr a dyma’r lle gorau i fi barhau i wella a chael y gorau o’m gyrfa.

“Mae gyda ni dîm ifanc ond talentog oedd wedi dangos y llynedd y gallwn ni herio am dlysau ac alla i ddim aros i gael dechrau’r tymor.”

Michael Hogan

Ymunodd Michael Hogan â’r sir yn 2012, ac mae e wedi cipio 279 o wicedi ers hynny mewn gemau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o lai na 23. Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y sir yn 2013 a 2014.

Mae’n gapten ar y tîm yn y Bencampwriaeth ers hanner ffordd trwy’r tymor diwethaf ar ôl i Jacques Rudolph gamu o’r neilltu. Cipiodd e dros 50 o wicedi yn y gystadleuaeth, gan gynnwys ffigurau gorau ei yrfa, 10-87 yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint. Mae e bellach wedi cipio dros 500 o wicedi dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa.

Cipiodd e 20 wiced yn y gystadleuaeth ugain pelawd, gan gynnwys pum wiced yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd, ac fe orffennodd ar frig rhestr wicedi Morgannwg.

Dywedodd ei fod yn teimlo fel “Cymro anrhydeddus” bellach.

Timm van der Gugten

Ymunodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten â Morgannwg yn 2016, gan gipio 82 o wicedi yn ei dymor cyntaf a chael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y sir.

Cafodd e anaf ddechrau’r tymor diwethaf, ond fe gipiodd e 22 o wicedi yn y Bencampwriaeth ar gyfartaledd o lai na 23 yn ei bum gêm.

Canmol

Wrth gyhoeddi’r newyddion, mae Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris wedi canmol y triawd.

Dywedodd fod Michael Hogan “wedi gwneud gwaith gwych wrth ddatblygu’r chwaraewyr Cymreig ifainc”.

Ychwanegodd fod gan Timm van der Gugten y gallu “i ennill gemau”.

Wrth drafod dyfodol y Cymro Lukas Carey, ychwanegodd: “Roedden ni wrth ein boddau gyda chynnydd Lukas y tymor diwethaf ar ôl iddo dorri drwodd i’r tîm cyntaf ar ddiwedd 2016.

“Mae e’n fowliwr gwych gyda’r bêl newydd ac roedd e wedi gallu ychwanegu at hynny gyda chyfnodau da yn nes ymlaen yn y dydd.

“Mae’n addawol iawn gweld bowliwr ifanc o Gymru’n dod drwy’r Academi a gobeithio y bydd nifer yn rhagor yn dilyn yn ôl ei droed.”