Mae cyn-chwaraewr amryddawn Clwb Criced Morgannwg, Alex Wharf wedi’i benodi i Banel Elit Dyfarnwyr Rhyngwladol yr ICC (Cyngor Criced Rhyngwladol).

Mae’n ymuno â’r tri Sais arall ar y rhestr – Rob Bailey, Michael Gough a Tim Robinson.

Mae Alex Wharf yn enedigol o Swydd Efrog ac fe gynrychiolodd y sir honno a Swydd Nottingham yn ystod ei yrfa. Cynrychiolodd e Loegr mewn 13 o gemau undydd yn 2004 a 2005.

Ond fe fu’n rhaid iddo ymddeol yn 2009 ar ôl deg tymor gyda Morgannwg pan anafodd ei benglin.

Dechreuodd hyfforddi yn 2011 i fod yn ddyfarnwr, gan ymuno â rhestr siroedd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) dair blynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd ei fod e “wrth ei fodd” o gael ei ychwanegu at y panel rhyngwladol.

“Dw i wedi mwynhau fy nhaith i mewn i ddyfarnu a thu hwnt. Fel chwaraewr, ro’n i bob amser yn caru’r gêm ac roedd gen i’r parch mwyaf ati,” meddai.

Dywedodd fod “y rôl lle bu’n rhaid ymdrin ag ystod o heriau yn bleser ac yn fraint”.

Fe fydd yn parhau i ddyfarnu gemau sirol yn ystod tymor 2018.