Fe fydd y gyfrol The Player from Ponty yn deyrnged i “arwr tawel” Clwb Criced Morgannwg, Bernard Hedges, yn ôl ei fab a chyd-awdur y cofiant, Stephen Hedges.

Fe fu Stephen Hedges yn siarad â golwg360 ar ddiwedd noson yn Amgueddfa Griced CC4 yng Ngerddi Sophia, lle bu’r ddau awdur yn trafod bywyd a gyrfa’r cricedwr oedd wedi cynrychioli Clwb Criced Morgannwg rhwng 1950 a 1967.

Dyma’r deyrnged ddiweddaraf gan y mab i’r tad, a fu farw o ganser yn 2014, y flwyddyn pan aeth Stephen Hedges ati i gerdded bob cam o lwybr yr arfordir er cof am ei dad.

“Yn sgil y daith gerdded honno y des i adnabod Andrew Hignell ym Morgannwg,” meddai wrth golwg360. “Ro’n i bob amser wedi hoffi’r syniad o gofnodi gyrfa Dad ac felly roedd yn estyniad naturiol wedyn fy mod i am lunio cofiant iddo fe.

“Roedd Andrew yn hynod frwd ac yn llawn anogaeth. Dyna pryd y datblygodd y syniad ar gyfer y llyfr, ac fe wnes i gyfarfod ag Andrew wedyn mewn tafarn yng Nghaerdydd.”

Bywyd ym Mhontypridd

Ym Mhontypridd y cafodd Bernard Hedges ei eni, yn un o wyth o blant ac fe gawson nhw “fywyd anodd”, meddai Stephen.

“Roedd dod trwy’r caledi hwnnw a chyrraedd y pen draw gyda’r hyn yr oedd nifer o’i ffrindiau ysgol yn ei ddisgrifio fel dawn, sef ei allu ym myd chwaraeon, wedi cael cryn ddylanwad ar ei fydolwg.

“Roedd ei draed yn solet ar y ddaear, roedd e’n ddyn caredig iawn ac yn barod iawn i roi o’i amser.”

Erbyn hyn, mae Stephen Hedges yn byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Lloegr, ond roedd e’n awyddus i ddarganfod mwy am wreiddiau ei dad yng nghymoedd de Cymru.

“Ychydig iawn wyddon ni am Bontypridd pan oedden ni’n iau, yn anaml iawn oedden ni’n mynd yno ac eithrio’n achlysurol i weld fy mam-gu.

“Dim ond pan es i ati i ddechrau ar y gyfrol y des i i adnabod tref Pontypridd, a dim ond crafu’r wyneb wnes i bryd hynny. Mae tipyn i’w ddarganfod eto am y lle. Ond dw i’n gwybod y bydda i’n parhau i ddychwelyd yno oherwydd Dad ond hefyd am ei fod yn teimlo fel lle sy’n rhan o’n Cymreictod ni i gyd.”

Hoelen wyth

Tra bod chwaraewyr fel Alan Jones, Eifion Jones, Don Shepherd a llawer mwy wedi hen sefydlu eu hunain yn hoelion wyth y sir, mae’n deg dweud na chafodd Bernard Hedges y sylw ar hyd y blynyddoedd mae’n deilwng ohono.

Mae’n seithfed ar restr prif sgorwyr rhediadau Morgannwg, ac yntau wedi sgorio’n agos at 18,000 o rediadau yn ystod ei yrfa, gan gynnwys 1,000 o rediadau bob tymor rhwng 1956 a 1963. Chwaraeodd e mewn 422 o gemau dosbarth cyntaf.

Fe hefyd oedd y batiwr cyntaf yn hanes y sir i daro canred mewn gêm undydd, a hynny yn erbyn Gwlad yr Haf yn 1963, a’i 103 yn ei arwain at gael ei enwi’n Seren y Gêm. Roedd yn fatiwr cyson dros 17 o flynyddoedd, gan greu partneriaethau agoriadol gwerthfawr gyda Gilbert Parkhouse ac Alan Jones.

Dywedodd Stephen Hedges, serch hynny, nad oedd ei dad yn un oedd yn hoffi “sefyll allan”.

“Dw i’n defnyddio’r term hoelen wyth am ei fod yn derm sy’n disgrifio rhywun sydd wastad o gwmpas ond sydd ddim bob amser yn ei chanol hi. Roedd yn rhan o natur gyrfa a batio Dad nad oedd e bob amser yn sefyll allan.

“Roedd Dad yn arwr tawel, ac fe fyddai e wedi bod yn hapus i gael y teitl hwnnw.”

Diweddglo anhapus

Tymor 1965 oedd dechrau’r diwedd i Bernard Hedges, fodd bynnag, ac fe ddaeth ei yrfa i ben ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Ond roedd ei angerdd am griced yn dal yn gryf, ac fe wnaeth e droi at Glwb Criced Ynysygerwn, un o dimau gwannaf cynghreiriau de Cymru ar y pryd.

Ond fel yr eglura Stephen Hedges: “Roedden nhw mor hapus gyda chyfraniad Dad nes iddyn nhw ei enwi fe’n Aelod Oes Anrhydeddus. Roedd Mam bob amser yn dweud ei fod e wrth ei fodd yn chwarae iddyn nhw.”

Oriel yr Enwogion

Yn sgil ei gyfraniad i Bontypridd, i Rondda Cynon Taf ac i griced yng Nghymru, cafodd Bernard Hedges ei dderbyn i Oriel Enwogion Rhondda Cynon Taf yn 2005 – “y diwrnod mawr olaf i ddathlu ei yrfa,” meddai ei fab.

“Roedd yn ddiwrnod gwych. Roedd [y chwaraewr rygbi] Bleddyn Williams yno, [y chwaraewr rygbi] Tom David hefyd. Roedd Jenny James [y ferch gyntaf i nofio’r Sianel] yno.

“Roedd yn ddiwrnod gwych, ac roedden ni’n ‘dod adref’. Mae Oriel yr Enwogion mewn canolfan hamdden fach, Canolfan Hamdden Hawthorn, sydd yn llythrennol ryw 200 llath o gartref Dad yn y 1930au, felly allai hynny ddim bod wedi bod yn well.”

Bydd The Player from Ponty (St David’s Press) gan Stephen Hedges a Dr Andrew Hignell yn cael ei gyhoeddi’n fuan.