Mae’r awdurdodau criced yn ystyried cyflwyno camau er mwyn gwarchod chwaraewyr rhag y gwres.

Daw’r newyddion wrth i bwyllgor criced y byd yr MCC gwrdd yn Awstralia.

Does dim camau o unrhyw fath yn eu lle ar hyn o bryd, a does dim hawl gan ddyfarnwyr i dynnu’r chwaraewyr oddi ar y cae yn sgil y gwres – er bod rheolau’n ymwneud â glaw a thywydd garw.

Fe gyrhaeddodd y tymheredd yn Sydney 41 gradd selsiws yn ystod prawf olaf Cyfres y Lludw rhwng Awstralia a Lloegr, ac fe fu’n rhaid i gapten Lloegr, Joe Root dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Ymhlith y rhai sy’n cefnogi cyflwyno camau newydd mae cyn-gapten Awstralia, Ricky Ponting; a chyn-gapten Sri Lanca, Kumar Sangakkara.

Cyfergyd

Ymhlith y materion eraill a gafodd sylw roedd cyfergyd i chwaraewyr.

Mae’r pwyllgor wedi argymell cyflwyno’r hawl i eilyddio chwaraewyr sy’n derbyn cyfergyd yn ystod y gêm.

Ar hyn o bryd, does gan eilyddion mo’r hawl i fatio na bowlio.

Ond fe fyddai hynny’n newid pe bai chwaraewyr yn cael cyfergyd yn ôl argymhellion y pwyllgor.

Mae arbrawf eisoes ar y gweill yn Awstralia, ac mae disgwyl i’r gem sirol yng Nghymru a Lloegr gynnal yr un arbrawf eleni.

Mae diogelwch chwaraewyr yn uwch ar yr agenda ers i’r Awstraliad Phil Hughes gael ei ladd ar ôl cael ei daro gan bêl wrth fatio yn 2014.