Tarodd batiwr Morgannwg, Shaun Marsh a’i frawd Mitchell ganred yr un yn ystod batiad cyntaf Awstralia ym mhrawf olaf Cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr yn Sydney neithiwr.

Sgoriodd Shaun 156 wrth i Mitchell sgorio 101, ac Awstralia gyrraedd 649-7 cyn cau eu batiad a chanddyn nhw flaenoriaeth batiad cyntaf o 303.

Roedd Shaun wrth y llain am 403 o funudau, gan wynebu 291 o belenni a tharo 18 pedwar cyn cael ei redeg allan gan Mark Stoneman.

Roedd y bartneriaeth gyda’i frawd yn 169.

Ond mae canred yr un i ddau frawd mewn batiad yn dipyn o gamp, a llond dwrn o gricedwyr sydd wedi gwneud hynny.

Brodyr

Mae Mark a Steve Waugh wedi cyflawni’r gamp ddwywaith – yn erbyn Lloegr ar yr Oval yn 2001 ac yn erbyn India’r Gorllewin yn 1995.

Tarodd Mushtaq a Sadiq Mohammed ganred yr un i Bacistan yn erbyn Seland Newydd yn 1976.

A’r brodyr Chappell, Greg ac Ian yw’r ddau arall i gyflawni’r gamp, a hynny ddwywaith yn ystod yr un gêm yn erbyn Seland Newydd yn 1974, gan ailadrodd y gamp ar drydydd achlysur.

Y ddau frawd arall i gyflawni’r gamp yw Grant ac Andy Flower, a hynny i Zimbabwe.

Sefyllfa’r gêm

Mae Lloegr yn 93-4 yn eu hail fatiad, 210 o rediadau y tu ôl i Awstralia.

Fe fydd rhaid i Loegr geisio osgoi colli’r chwe wiced sy’n weddill er mwyn rhoi llygedyn o obaith iddyn nhw ennill y gêm.

Mae Awstralia eisoes wedi ennill y gyfres, ac mae Lloegr yn ceisio osgoi ei cholli o 4-0 yn dilyn un gêm gyfartal.