Mae grŵp cefnogwyr tîm criced Lloegr wedi talu teyrnged i’r rhai a fu farw mewn damwain yn Sydney nos Galan.

Roedd Richard Cousins, 58, ymhlith chwech o bobol a gafodd eu lladd pan blymiodd yr awyren fechan i afon.

Roedd yn gefnogwr brwd o dîm criced Swydd Surrey, yn ymwelydd cyson â chae criced yr Oval. Bu farw ei ddyweddi Emma Bowden; ei merch 11 oed, Heather; ei feibion yntau Will, 25, ac Edward, 23; ynghyd â’r peilot Gareth Morgan.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain.

Teyrnged

Yn ystod pob Cyfres y Lludw – cyfres o gemau criced rhwng Lloegr ac Awstralia, mae cefnogwyr y ddwy wlad yn cynnal eu cyfres eu hunain, sef y ‘Bashes’.

Cyn y gêm olaf rhwng y ddwy walad – ar drothwy’r prawf olaf rhwng y chwaraewyr proffesiynol yn Sydney heno – cynhaliodd y cefnogwyr funud o dawelwch, gan wisgo bandiau duon am eu breichiau.

“Roedd yn ddamwain ofnadwy, ac roedden ni’n teimlo ei bod yn haeddu ein cydnabyddiaeth fod Sais yma’n dilyn y criced wedi marw dan yr amgylchiadau hynny,” meddai Paul Burnham, cyd-sylfaenydd y ‘Barmy Army’.

“Dyma, yn sicr, oedd y peth cywir i’w wneud.”