Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cael eu llongyfarch ar ôl i ddau chwaraewr gael eu cynnwys yng ngharfan dan 19 Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd.

Cafodd y bowliwr cyflym, Roman Walker o Wrecsam a’r chwaraewr amryddawn, Prem Sisodiya o Gaerdydd eu cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf yn ddiweddar ar gyfer cyfres undydd driphlyg yn erbyn De Affrica a Namibia.

Sgoriodd Prem Sisodiya hanner canred ac fe gipiodd e bedair wiced yn erbyn Namibia yr wythnos ddiwethaf, yn ogystal â dwy wiced am 43 yn erbyn De Affrica wrth i Loegr ennill o wyth wiced.

Cipiodd Roman Walker gipio wiced gyntaf batiad Namibia.

Gwaith yr Academi

Ymhlith hyfforddwyr yr Academi mae’r cyn-wicedwr Adrian Shaw a’r Pennaeth Datblygu Talent, Richard Almond.

Ar ôl cyhoeddi carfan Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd, dywedodd un o’r dewiswyr, David Graveney: “Mae’n werth llongyfarch Swydd Middlesex, Gwlad yr Haf, Swydd Gaerwrangon a Morgannwg sy’n cyfrannu rhan fwya’r chwaraewyr yn y garfan, fel gwobr am ansawdd eu Hacademi.”

Manylion Cwpan y Byd

Bydd Lloegr yn chwarae mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Iwerddon a Sri Lanca cyn i’r gystadleuaeth ddechrau yn Seland Newydd ar Ionawr 13.

Yn ystod y gystadleuaeth, byddan nhw’n herio Namibia (Ionawr 15) a Bangladesh (Ionawr 18).

Y garfan: Harry Brook (Swydd Efrog, capten), Ethan Bamber (Swydd Middlesex), Liam Banks (Swydd Warwick), Tom Banton (Gwlad yr Haf), Jack Davies (Swydd Middlesex), Adam Finch (Swydd Gaerwrangon), Luke Hollman (Swydd Middlesex), Will Jacks (Swydd Surrey), Tom Lammonby (Gwlad yr Haf), Dillon Pennington (Swydd Gaerwrangon), Savin Perera (Swydd Middlesex), Prem Sisodiya (Morgannwg), Tom Scriven (Swydd Hampshire), Fin Trenouth (Gwlad yr Haf), Roman Walker (Morgannwg).