Mae tîm criced Awstralia wedi ennill prawf cyntaf Cyfres y Lludw o ddeg wiced ar gae’r Gabba yn Brisbane.

Chwaraeodd batiwr tramor newydd Morgannwg, Shaun Marsh ei ran yn y fuddugoliaeth wrth sgorio 51 yn y batiad cyntaf yn ystod partneriaeth o 99 gyda’i gapten Steve Smith, a darodd 141 heb fod allan wrth i’r tîm gael eu bowlio allan am 328, wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Lloegr o 302.

Roedd capten Lloegr, Joe Root a Dawid Malan wedi adeiladu partneriaeth o 83 cyn i Shaun Marsh ddal Malan oddi ar fowlio Mitchell Starc, ac fe agorodd y llifddorau wrth i Loegr golli eu pum wiced olaf am 56.

Dim ond 195 sgoriodd y Saeson yn eu hail fatiad, gan osod nod o ddim ond 170 i Awstralia am y fuddugoliaeth.

Roedden nhw’n 114-0 ar ddechrau’r diwrnod olaf ac ychydig dros awr gymerodd hi i Cameron Bancroft (82 heb fod allan), yn ei gêm gyntaf, a David Warner (87 heb fod allan) sgorio’r 56 rhediad oedd eu hangen i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae’n golygu bod Lloegr yn dal heb fuddugoliaeth ar gae’r Gabba ers tymor 1986-87 ac maen nhw ar ei hôl hi o 1-0 yn y gyfres cyn iddyn nhw deithio i Adeilade ar gyfer yr ail brawf sy’n dechrau ar Ragfyr 2 ac sy’n cael ei chwarae o dan y llifoleuadau.

Ffrwgwd

Ar ôl dechrau’r daith heb y chwaraewr amryddawn Ben Stokes, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn ffrwgwd ym Mryste cyn dechrau’r gyfres, mae cwestiynau wedi codi unwaith eto am ymddygiad y Saeson.

Mae honiadau bod wicedwr Lloegr, Jonny Bairstow wedi taro Cameron Bancroft â’i ben y tu allan i far yn Perth ar ddiwrnod cynta’r daith.

Mewn datganiad ddoe, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Criced Cymru a Lloegr: “Yn dilyn sgwrs gychwynnol gyda Jonny Bairstow heno, rydyn ni’n deall y cyd-destun a byddwn yn mynd ar ôl hyn gyda chwaraewyr a rheolwyr Lloegr ar ôl y prawf yn Brisbane.”