Mae prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Robert Croft wedi canu clodydd Shaun Marsh, y batiwr agoriadol llaw chwith o Awstralia sydd wedi ymuno â’r sir fel chwaraewr tramor ar gyfer 2018 a 2019.

Roedd Morgannwg yn chwilio am chwaraewr tebyg i’r cyn-gapten, Jacques Rudolph, oedd wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r gêm ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Ac yn ôl Robert Croft, mae’r chwaraewr rhyngwladol yn llenwi’r bwlch.

“Mae e’r math o gricedwr dw i’n credu y bydd e’n ffitio i mewn i’n stafell newid ni. Mae e’n alluog iawn ac mae ei ystadegau’n dangos pa mor eithriadol mae e wedi bod  ym mhob fformat o’r gêm.

“Dw i’n hoffi’r ffordd mae’n mynd o gwmpas ei bethau, mae e’n gricedwr di-ffwdan a dw i’n credu ei fod e’r math o berson fydd angen arnon ni i wneud yn dda yn ystod y tymor, ond mae e’r math o chwaraewr hefyd y bydd ein chwaraewyr ifainc sy’n dod drwodd yn dysgu oddi wrtho fe.”

Talentog

Yn ôl Robert Croft, mae Shaun Marsh yn “chwaraewr sydd â sgiliau a thalent, nid dim ond yn y ffordd y mae e’n taro pêl criced ond yn y ffordd mae e’n cystadlu hefyd”.

“Mae e’n gystadleuol gyda’r bat ac yn gystadleuol yn y maes. Mae e’n gwneud popeth er mwyn ennill.

“Dw i’n credu bod ganddo fe werthoedd da o safbwynt ei hunan a’r hyn mae e’n disgwyl gan ei gyd-chwaraewyr.

“Mae cael chwaraewr prawf presennol yn ein carfan yn bwysig iawn i ni fel staff, fel chwaraewyr ac fel cefnogwyr.”

Cyd-chwaraewr yn 2012

Tra bod Robert Croft yn edrych ymlaen at hyfforddi’r chwaraewr newydd, mae e hefyd yn gwybod sut brofiad yw bod ar y cae gyda fe fel cyd-chwaraewr.

Roedd y ddau yn aelodau o garfan ugain pelawd y sir gyda’i gilydd yn 2012.

“Mae e’n gricedwr arbennig o dda. Fi’n lico beth mae e’n gallu rhoi i’n tîm ni a gobeithio’i fod e’n gallu dangos i bawb sy’n dilyn Morgannwg beth mae’n gallu gwneud.

“Mae e’n whare dros Awstralia yn yr Ashes a gobeithio bod pawb sy’n dilyn y gêm yn edrych ymlaen i’w gael e draw i whare i ni.

“Mae e wedi whare dros dimau sy’ wedi ennill pethau. ’Na beth y’n ni’n moyn cael nôl ym Morgannwg. Mae e wedi ennill llawer yn y Big Bash a gyda Western Australia, a gobeithio’i fod e’n gallu rhoi tipyn bach o help i ni i ennill rhywbeth yn ystod y tymor nesaf a hefyd roi help i’r bois eraill sy yn ein stafell newid ni i wneud yn siŵr bo ni’n cael popeth ma’s ohonyn nhw.”