Mae mwy na 25,000 o docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer gemau criced Lloegr yn erbyn India ac Awstralia – sy’n record i’r sir ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae’r tocynnau ar gyfer y gêm 50 pelawd yn erbyn Awstralia ar Fehefin 16 yn gwerthu bedair gwaith yn gyflymach na’r tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Pacistan y tymor diwethaf.

Ac mae’r tocynnau ar gyfer y gêm ugain pelawd yn erbyn India ar Orffennaf 6 yn gwerthu ddwywaith yn gyflymach na’r gêm gyfatebol yn erbyn De Affrica y llynedd.

Mae’r tocynnau wedi bod ar werth ers mis diwethaf, ac mae’r holl docynnau ar gyfer pump o’r eisteddleoedd eisoes wedi’u gwerthu.

Mae llai na 1,500 o docynnau’n weddill ar gyfer y gêm rhwng Lloegr ac Awstralia, ac ychydig yn llai na 3,500 o docynnau’n weddill ar gyfer y gêm rhwng Lloegr ac India.

‘Chwant mawr’

Yn ôl prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris, mae “chwant mawr” am docynnau ar gyfer gemau Lloegr yng Nghaerdydd o hyd.

“Mae Awstralia ac India’n gemau rhyngwladol ag iddyn nhw fawredd a gyda Chyfres y Lludw ar fin dechrau ac India’n meddu ar rai o chwaraewyr gorau’r byd, fe fu chwant mawr i weld y timau gwych hyn yng Nghaerdydd haf nesaf.”

Yn dilyn y gemau rhyngwladol yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, derbyniodd cyfleusterau Stadiwm Swalec SSE sgôr uchel gan gefnogwyr.

8.9 gawson nhw allan o ddeg ar gyfer awyrgylch, a naw allan o ddeg am yr olygfa.