Mae cae criced mwyaf newydd y byd wedi cael ei agor yn Rwanda, ac wedi cael ei ddisgrifio fel “Lord’s Dwyrain Affrica”.

Cafodd y cae yn y brifddinas Kigali ei agor yn swyddogol gan arweinydd y wlad, Paul Kagame.

Yno ar gyfer yr agoriad swyddogol hefyd roedd cyn-gapten Lloegr Michael Vaughan, a chyn-fatiwr De Affrica a Morgannwg Herschelle Gibbs.

Dywedodd batiwr Lloegr, Sam Billings, oedd hefyd yno, fod y cyfleusterau “o safon fyd-eang”.

Chwaraeodd y tri mewn gêm ar y cae newydd.

Roedd yr agoriad yn benllanw wythnos o griced ugain pelawd yn y ddinas.

‘Fe wnes i grio’

Mae rhai o gricedwyr Rwanda wedi bod yn ymateb i’r cae newydd.

Dywedodd capten tîm cenedlaethol y dynion, Eric Dusingizimana, sydd hefyd yn beiriannydd sifil ac yn rheolwr ar y stadiwm newydd, ei fod e “wedi crio yn y bore”.

Ac yntau bellach yn 30 oed, fe ddaeth i’r byd criced wrth astudio mathemateg a ffiseg.

Yn 2000, chwe blynedd cyn iddo ddechrau chwarae criced, dim ond dau dîm oedd yn Rwanda, a dim ond 25 o chwaraewyr.

Bellach, mae lle i gredu bod hyd at 15,000 o bobol yn chwarae’r gêm.

Ychwanegodd: “I ni, nid gêm yn unig yw criced; ein bywyd ni yw e.”

Dywedodd hefyd mai trwy criced y dysgodd e Saesneg.

Y stadiwm

Cafodd y stadiwm newydd ei chodi drwy gefnogaeth Sefydliad Stadiwm Griced Rwanda, a gododd £1 miliwn at y prosiect.

Mae’r safle hefyd yn cynnwys bwyty, bar ac ystafelloedd cynadledda, yn ogystal â chanolfan sy’n cynnal profion HIV.

Cafodd y pafiliwn ei ddylunio fel ei fod yn adlewyrchu pêl yn adlamu ar gae criced a bryniau Rwanda.