Mae pentref bach Cymraeg Trebannws yng Nghwm Tawe am gynhyrchu rhai o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru ac yn eu plith mae’r cyn-gricedwr Greg Thomas.

Fe ddychwelodd i Gymru o’i gartref yn Northampton yr wythnos ddiwethaf ar gyfer noson arbennig yn Amgueddfa Griced Cymru CC4 yng Nghlwb Criced Morgannwg gydag un arall o gyn-gricedwyr y sir, Winston Davis o India’r Gorllewin.

Mae e’n un o ddim ond dau Gymro Cymraeg, ynghyd â Robert Croft, sydd wedi chwarae criced dros Loegr, ac fe ddisgrifiodd ei deimladau am hynny wrth golwg360 ar ddiwedd y noson.

“Wy bob amser yn dweud bo fi wedi chwarae dros Loegr tra bo fi’n cynrychioli ’ngwlad [Morgannwg]. Roedd yn destun balchder mawr i fi, fel Cymro Cymraeg, i gael chwarae dros Loegr.”

Mae modd cymharu agwedd Greg Thomas at y gamp honno â safbwynt prif hyfforddwr presennol Morgannwg, Robert Croft, sydd wedi disgrifio’r profiad o chwarae dros Loegr fel cynrychioli’r Llewod, a bod chwarae dros Forgannwg fel chwarae dros Gymru.

Pentref chwaraeon yng Nghwm Tawe

Blaenasgellwr Cymru, Justin Tipuric yw’r chwaraewr diweddaraf o Drebannws i gynrychioli ei wlad.

Mae gan y pentref draddodiad hir o gynhyrchu chwaraewyr rygbi, a’r rhestr yn cynnwys Robert Jones, Bleddyn Bowen ac Arwel Thomas – ac mae yna golffiwr rhyngwladol, Blair Fisher sy’n hanu o’r pentref hefyd.

Ond beth sydd mor arbennig am y pentref hwn, tybed?

“Dw i ddim yn siŵr,” meddai Greg Thomas. “Dw i’n gwybod fod rhyw ddwsin i bymtheg ohonon ni. Roedd pawb yn chwarae o fore gwyn tan nos yn ystod y gwyliau.

“Roedden ni’n chwarae criced, tipyn bach o golff, rygbi, pêl-droed, a beth bynnag arall. Roedden ni i gyd yn chwarae a phawb yn eitha’ da, ond rhai yn well na’i gilydd.

“Roedd gyda chi Bleddyn Bowen yn gapten ar Gymru fel canolwr, Robert Jones yn fewnwr. Roedd y ddau wedi chwarae criced ar lefel eitha’ da. Roedd Bleddyn yn enwedig yn gricedwr da.

“Wnes i chwarae rhywfaint o rygbi yn yr ysgol. Fi oedd yr wythwr pan oedd Robert yn fewnwr. Ges i dreial i dîm ysgolion Cymru ond yn anffodus, ges i anaf i ’nghefn.”

Morgannwg – Cymry yw’r ffordd ymlaen

Yn ôl Greg Thomas, eu polisi presennol o gynhyrchu cricedwyr ifainc o Gymru yw’r ffordd ymlaen os ydyn nhw am lwyddo ar y cae ac oddi arno.

“Po fwyaf o gricedwyr y gallwch chi eu cynhyrchu’n lleol, gorau oll i’r gêm ac i’r clwb hefyd oherwydd dw i’n siŵr y bydd mwy o bobol yn dod i gefnogi’r clwb os oes gyda nhw gricedwyr lleol.

“Mae’r timau heddi, yn enwedig yn y gêm ugain pelawd, yn dueddol o fod yn dimau rhyngwladol lle mae chwaraewyr yn mynd i ble bynnag mae gemau’n cael eu chwarae, yn debyg i bêl-droed. Ond mae’n braf gweld chwaraewyr o Gymru yn nhîm Morgannwg.”

Trebannws a’r Caribî yn dod ynghyd

Tra bod Greg Thomas yn hanu o Drebannws, roedd un o’i gyd-chwaraewyr yn nhîm Morgannwg yn y 1980au, Winston Davis yn dod o ynys St. Vincent yn y Caribî.

Chwaraeodd y ddau i Forgannwg a Swydd Northampton yn ystod eu gyrfaoedd, a’r ddau ohonyn nhw wedi cyrraedd y llwyfan rhyngwladol – y Cymro Cymraeg i Loegr a Winston Davis i India’r Gorllewin.

Ond yn hytrach na chaeau chwarae pentref, traethau euraid y Caribî oedd maes chwarae’r bowliwr cyflym o’r Caribî a ddaeth yn aelod pwysig o dîm India’r Gorllewin gyda Michael Holding, Andy Roberts a Joel Garner.

Ar ôl ymddeol, aeth Greg Thomas ymlaen i weithio ym myd y gyfraith, a’i fab Will bellach yn gricedwr i ail dîm Swydd Northampton.

Trasiedi

Ond trasiedi a ddaeth i ran Winston Davis yn ei ymddeoliad yntau, ar ôl iddo gael ei barlysu pan gafodd ei daro gan goeden yn ôl yn ei gartref yn St. Vincent.

Ac yntau’n Gristion, roedd y cyn-fowliwr cyflym a aeth wedyn i weithio mewn melin flawd, yn torri coed ar dir eglwys leol pan gafodd ei daro i’r llawr gan frigau coed.

Fe dreuliodd fisoedd yn yr ysbyty yn Fflorida cyn cael ei symud i ysbyty Gobowen, ac mae’n byw yn Lloegr bellach ers bron i ugain mlynedd.

Dywedodd Winston Davis wrth golwg360: “Mae yna heriau yn y bywyd yma. Dyw e ddim y math o fywyd y byddech chi’n ei ddymuno i’ch gelyn pennaf. Ond mae’n fywyd y gallwch chi ei fyw a’i fwynhau.

“Dw i’n dal i ddihuno yn edrych ymlaen at bob dydd. Dw i’n dal i gredu y bydda i’n cerdded eto. Roedd yna adeg pan o’n i’n ymdopi, ond nawr dw i’n byw. Does gen i ddim byd i gwyno yn ei gylch e.”

Ychwanegodd Greg Thomas: “Mae’r hyn sy’ wedi digwydd iddo fe’n drist ond oni bai am y ddamwain, efallai na fydden ni wedi treulio cymaint o amser gyda’n gilydd.”

Digwyddiadau Amgueddfa Griced Cymru CC4 dros y gaeaf

Tachwedd 8 – Noson gydag Alan Butcher, cyn-gapten Morgannwg

Tachwedd 21 – Dr Andrew Hignell, curadur yr Amgueddfa, yn lansio’i gyfrol From Front Foot to Front Line, sy’n edrych ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar griced yn ne Cymru.

Rhagfyr 6 – Noson cwis a chyri

Ionawr 17 – Noson deyrnged i Bernard Hedges, yng nghwmni ei fab Stephen sydd wedi cyd-ysgrifennu cofiant i’w dad gyda Dr Andrew Hignell

Chwefror 14 – Noson gydag Alan Wilkins, yn trafod ei yrfa fel cricedwr a darlledwr

Mawrth 7 – Haf 1968 – dathlu hanner canmlwyddiant buddugoliaeth ddiwethaf Morgannwg dros Awstralia, a chwech chwech Garry Sobers yng nghwmni’r bowliwr Malcolm Nash.