Colin Ingram yw Chwaraewr y Flwyddyn Orielwyr San Helen, grŵp cefnogwyr Clwb Criced Morgannwg yn y de orllewin.
Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi ar noson wobrwyo flynyddol yr Orielwyr yng ngwesty’r Towers ar gyrion Abertawe nos Lun.
Roedd e eisoes wedi ennill gwobrau Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Undydd y Flwyddyn yn noson wobrwyo’r clwb yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.
Ac mae e wedi cael ei enwebu ar gyfer dwy wobr arall gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol yn dilyn ei berfformiadau mewn gemau undydd yn ystod y tymor.
Tymor llwyddiannus
Sgoriodd y batiwr llaw chwith o Dde Affrica 1,698 o rediadau yn yr holl gystadlaethau yn ystod y tymor, gan gynnwys saith canred.
Roedd e’n aelod allweddol o’r tîm yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast wrth iddyn nhw gyrraedd Diwrnod y Ffeinals am y tro cyntaf ers 13 o flynyddoedd. Tarodd e ddau ganred yn y gystadleuaeth honno, gan daro’r canred cyflymaf erioed dros Forgannwg yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford.
Cafodd ei enwi’n seren y gêm yn rownd yr wyth olaf wrth i’r Cymry drechu Swydd Gaerlŷr i sicrhau eu lle ymhlith y pedwar olaf yn Edgbaston, a hynny ar ôl taro 70 oddi ar 43 o belenni.
Sgoriodd Colin Ingram 564 o rediadau yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, gan gyrraedd brig tabl Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.
Roedd ei gyfanswm rhediadau’n cynnwys tri chanred, gan gynnwys 142 yn erbyn Swydd Esex yng Nghaerdydd.
Mae e hefyd wedi’i enwebu ar gyfer dwy wobr gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol am ei berfformiadau yn y ddwy gystadleuaeth undydd.
Gemau yn y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth, batiodd Colin Ingram am bron i ddeg awr i achub gornest yn erbyn Swydd Nottingham, gan sgorio 155 heb fod allan mewn partneriaeth allweddol gyda Chris Cooke.
Ar ôl derbyn y wobr ar ei ran, dywedodd capten Morgannwg, Michael Hogan wrth golwg360: “Mae Colin wedi bod yn wych. Fe ddaeth e i’r clwb gyda thipyn o brofiad ac mae’r hyn mae e wedi’i wneud mewn criced undydd â’r bel wen a hefyd mewn ambell i fatiad gyda’r bêl goch y tymor hwn, wedi bod yn rhyfeddol.
“Mae e’n llawn haeddu’r wobr.”
Fe darodd Colin Ingram 59 chwech mewn gemau undydd yn ystod y tymor ac fe ddywedodd Michael Hogan: “Mae nifer o’r bois wedi dweud a dw i’n dweud, yn anaml iawn dw i wedi gweld clatsio fel ’na gan chwaraewr unigol, os o gwbl.
“Mae e’n glatsiwr glân a chyson, y gorau dw i wedi’i weld, fwy na thebyg.”
Gwobrau eraill
Ar ôl cipio 35 o wicedi yn y Bencampwriaeth yn ystod ei dymor cyntaf gyda Morgannwg, cafodd Lukas Carey, y bowliwr cyflym o Bontarddulais, ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn.
Fe ddaeth i amlygrwydd y tymor diwethaf yn ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Northampton yn Abertawe, ac roedd e ymhlith y perfformwyr gorau unwaith eto eleni.
Kieran Bull, y troellwr, gipodd y wobr ar gyfer Chwaraewr Gorau’r Ail Dîm, ar ôl cipio 32 o wicedi, gan gynnwys 5-61 yn erbyn Swydd Gaerwrangon.
Aeth Gwobr y Clwb i Roger Skyrme, gofalwr ystafell newid Clwb Criced Morgannwg am ei gyfraniad oddi ar y cae dros y ddau ddegawd diwethaf.
Roedd gwobrau am berfformiadau unigol hefyd i Colin Ingram, Kiran Carlson, Chris Cooke, Michael Hogan, Andrew Salter, Nick Selman a Graham Wagg.
Roedd teyrngedau teimladwy ar ddiwedd y noson i’r diweddar Don Shepherd, un o fawrion y clwb fu farw ym mis Awst, wythnos yn unig ar ôl cael ei ben-blwydd yn 90 oed.