Mae’r ddau Gymro, Roman Walker a Prem Sisodiya wedi cael eu dewis yng ngharfan griced Llewod Ifainc Lloegr yn ystod y gaeaf.

Bydd y tîm yn herio De Affrica a Namibia mewn cystadleuaeth rhwng Tachwedd 23 a Rhagfyr cyn bod Cwpan y Byd dan 19 yn cael ei gynnal yn Seland Newydd rhwng Ionawr 19 a Chwefror 3.

Mae’r ddau chwaraewr yn aelodau o Academi Clwb Criced Morgannwg.

Bowliwr cyflym 17 oed o Wrecsam yw Roman Walker ac fe chwaraeodd e i’r tîm cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Swydd Nottingham cyn dechrau’r tymor.

Fe ddatblygodd ei grefft fel aelod o dîm criced Marchwiel yng nghynghrair y gogledd cyn cynrychioli tîm Cymru dan 17 oed. Mae e bellach yn chwarae i dîm Croesoswallt.

Troellwr llaw chwith yw Prem Sisodya, a gafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Whitchurch, sydd wedi meithrin sgiliau cricedwyr fel Kiran Carlson a’r diweddar Tom Maynard, y chwaraewr rygbi Sam Warburton a’r pêl-droediwr Gareth Bale.

Aeth yn ei flaen o’r fan honno i Goleg Clifton ym Mryste ac mae e wedi bod yn aelod o dîm dan 19 Lloegr y tymor hwn.

Matthew Maynard i ddychwelyd i Forgannwg?

Yn y cyfamser, mae cyn-gapten a chyn-Gyfarwyddwr Criced Morgannwg, Matthew Maynard wedi datgelu y byddai’n ystyried dychwelyd i’r sir.

Dywedodd heddiw y byddai’n ystyried dychwelyd uchlaw neu islaw’r prif hyfforddwr Robert Croft – ac yntau’n gymwys i wneud swydd y Cyfarwyddwr Criced, hyfforddwr batio neu ymgynghorydd batio.

Ac mae’r prif weithredwr Hugh Morris wedi cadarnhau bod y sir yn ystyried eu hopsiynau yn dilyn tymor siomedig i’r batwyr.

Daeth cadarnhad ar ddiwedd y tymor fod Matthew Maynard yn gadael Gwlad yr Haf ar ôl tair blynedd, a hynny ar ôl i swydd y Cyfarwyddwr Criced gael ei rhannu’n ddwy, gyda Jason Kerr wedi’i benodi’n brif hyfforddwr ac Andy Hurry yn dod yn Gyfarwyddwr Criced yn lle Matthew Maynard.

Mae e wedi cadarnhau ei fod e wedi derbyn sawl cynnig.

Carfan Llewod Ifainc Lloegr: Ethan Bamber (Swydd Middlesex), Liam Banks (Swydd Warwick), Tom Banton (Gwlad yr Haf), Harry Brook (Swydd Efrog), Jack Davies (Swydd Middlesex), Adam Finch (Swydd Gaerwrangon), Luke Hollman (Swydd Middlesex), Will Jacks (Swydd Surrey), Tom Lammonby (Gwlad yr Haf), Felix Organ (Swydd Hampshire), Dillon Pennington (Swydd Gaerwrangon), Savin Perera (Swydd Middlesex), Jack Plom (Swydd Essex), Hamidullah Qadri (Swydd Derby), Tom Scriven (Swydd Hampshire), Prem Sisodiya (Morgannwg), Fin Trenouth (Gwlad yr Haf), Roman Walker (Morgannwg).