Mae batiwr llaw chwith Morgannwg, Colin Ingram wedi cael ei enwebu ar gyfer dwy wobr gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).

Fe fydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno yn Llundain ar Hydref 4.

Enillodd e wobr y Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast y tymor diwethaf, yn ogystal â gwobr Sky Sports ar gyfer yr un gystadleuaeth.

Mae e wedi sgorio 1,026 o rediadau mewn gemau undydd unwaith eto’r tymor hwn, gan gynnwys pum canred, sydd wedi ei godi i frig y perfformwyr undydd unwaith eto.

Fe orffennodd e ar frig tabl y Chwaraewyr Mwyaf Gwerthfawr ar gyfer Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd ac roedd e’n drydydd ar y rhestr ar gyfer y T20 Blast.

Mae hynny’n golygu y bydd e’n un o’r ceffylau blaen ar gyfer Gwobr Cwpan Royal London a’r brif wobr, sef Chwaraewr y Flwyddyn.

Yn cystadlu am y wobr yn erbyn Colin Ingram mae bowliwr cyflym Swydd Essex, Jamie Porter, chwaraewr amryddawn Swydd Nottingham, Samit Patel, a batiwr Swydd Surrey, Kumar Sangakkara.

Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn y Roundhouse yn Camden ar Hydref 4, a hynny wrth i Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol ddathlu’r hanner cant. Bydd holl elw’r noson yn mynd i Gronfa Les y PCA.