Mae Morgannwg wedi gorffen eu tymor criced gyda buddugoliaeth o bum wiced dros Swydd Gaint yn y Bencampwriaeth yng Nghaergaint.

Roedd angen 189 o rediadau arnyn nhw am y fuddugoliaeth ar ôl bowlio Swydd Gaint allan am 115 yn eu hail fatiad.

Cyrhaeddon nhw’r nod toc ar ôl 4.30pm ar y trydydd diwrnod heddiw wrth i’r chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd daro chwech i orffen ar 35 heb fod allan. Cafodd ei gefnogi gan Andrew Salter, oedd yn 17 heb fod allan a’r bartneriaeth yn werth 39.

Yn gynharach yn y batiad, tarodd Nick Selman 70 wrth adeiladu partneriaeth o 96 am y wiced gyntaf gyda Connor Brown (33).

Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn gorffen yn seithfed yn nhabl y Bencampwriaeth. 

Manylion

Ar ôl dewis bowlio ar y bore cyntaf, Morgannwg gafodd y gorau o’r amodau wrth i’r tîm cartref lithro i 39-4.

Ond daeth adferiad diolch i bartneriaeth o 68 rhwng Zak Crawley (37) a Joe Denly, aeth ymlaen i sgorio 152 wrth i Swydd Gaint gael eu bowlio allan am 302.

Roedd pedair wiced i gapten Morgannwg, Michael Hogan, oedd wedi mynd heibio 500 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa yn ystod yr ornest.

Yr un hen stori oedd hi yn ystod batiad cyntaf Morgannwg, wrth iddyn nhw lithro i 65-5 cyn i Chris Cooke (49) ac Andrew Salter ychwanegu 65 am y chweched wiced.

Cyfrannodd Craig Meschede 44 gyda’r bat wrth i’r Cymry lwyddo i orffen ar 229 i gyd allan, 73 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg.

Michael Hogan oedd seren y bowlwyr yn ail fatiad Swydd Gaint, wrth iddo fe gipio chwe wiced am 43 i gyfyngu Swydd Gaint i 115 i gyd allan. Y prif sgoriwr oedd Adam Rouse (44) ar ôl cael ei alw i’r tîm ar yr unfed awr ar ddeg wrth i’r wicedwr Sam Billings gael ei alw i garfan undydd Lloegr.

Nod o 189 oedd gan Forgannwg, felly, ac er iddyn nhw golli pedair wiced o fewn 13.1 o belawdau, fe gyrhaeddon nhw’r nod yn gymharol hawdd yn y pen draw i orffen gyda thair buddugoliaeth yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, sy’n eu gadael yn y seithfed safle.