Mae hyfforddwr tîm criced Lloegr, Trevor Bayliss wedi beirniadu Ben Stokes ar ôl iddo fe gael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn ystod ffrwgwd ym Mryste.

Ond mae’r chwaraewr amryddawn wedi cael ei enwi’n is-gapten y garfan ar gyfer Cyfres y Lludw yn Awstralia dros y gaeaf.

Mae e wedi torri bys yn ei law ond fe fydd e’n holliach ar gyfer y daith i Awstralia er bod Trevor Bayliss yn dweud bod ei ymddygiad yn “amhroffesiynol iawn”.

Mae e hefyd wedi beirniadu nifer o chwaraewyr eraill am fynd allan i ddathlu buddugoliaeth dros India’r Gorllewin nos Sul.

Mae’r batiwr agoriadol Alex Hales wedi cael ei adael allan o garfan Lloegr am y tro am ei ran yn y ffrwgwd, ac mae e’n parhau i gael ei holi gan yr heddlu.

Cafodd dyn arall anafiadau i’w wyneb yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd Trevor Bayliss fod cyfrifoldeb gan y chwaraewyr i ymddwyn yn y modd priodol yn gyhoeddus.

Fe fydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.

Bydd y garfan yn gadael am Awstralia ar Hydref 28.

Carfan Lloegr ar gyfer Cyfres y Lludw yn Awstralia: Joe Root (capten, Swydd Efrog), Moeen Ali (Swydd Gaerwrangon), James Anderson (Swydd Gaerhirfryn), Jonny Bairstow (Swydd Efrog), Jake Ball (Swydd Nottingham), Gary Ballance (Swydd Efrog), Stuart Broad (Swydd Nottingham), Alastair Cook (Swydd Essex), Mason Crane (Swydd Hampshire), Ben Foakes (Swydd Surrey), Dawid Malan (Swydd Middlesex), Craig Overton (Gwlad yr Haf), Ben Stokes (Swydd Durham), Mark Stoneman (Swydd Surrey), James Vince (Swydd Hampshire), Chris Woakes (Swydd Warwick).