Mae Morgannwg yn ôl yn y gêm unwaith eto ar ddechrau trydydd diwrnod eu gêm olaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint.

Ac mae’r diolch yn bennaf i’r capten Michael Hogan, a gipiodd 500fed wiced ei yrfa dosbarth cyntaf wrth iddo fe orffen gyda ffigurau o 4-44 ar yr ail ddiwrnod wrth i’r tîm cartref orffen yr ail ddiwrnod ar 98-6, 171 o rediadau’n unig ar y blaen yn eu hail fatiad.

Dywedodd y bowliwr cyflym ei fod e’n “falch iawn ac yn hapus”, yn enwedig gan fod y wicedi wedi tynnu Morgannwg yn ôl i mewn i’r gêm ar ôl dechrau siomedig.

“Y wiced allweddol i ni oedd Joe Denly, oedd wedi chwarae’n rhagorol yn y batiad cyntaf, felly roedd ei gael e allan â phelen syth ar ei esgid yn wych.”

Fe ddaeth y garreg filltir wrth i’r Awstraliad gipio wiced y capten Sam Northeast, oedd wedi cynnig daliad syml i’r wicedwr Chris Cooke.

“Ro’n i mewn lle da ac yn meddwl y byddwn i’n rhoi bownsar i Northeast i ddechrau, ac fe lwyddodd e i roi maneg arni i’r wicedwr am y 500fed wiced fawr.”

Newid hwyr yn nhîm y Saeson

Roedd y wiced honno ymhlith y 15 a gwympodd ar yr ail ddiwrnod, gan gynnwys Adam Rouse, a gamodd i mewn i esgidiau’r wicedwr Sam Billings ar yr unfed awr ar ddeg, ar ôl iddo fe gael ei alw i mewn i garfan Lloegr.

Roedd Swydd Gaint yn 24-4 yn eu hail fatiad pan ddaeth e i’r llain ar ôl colli tair wiced heb sgorio’r un rhediad oddi ar wyth pelen.

Cafodd Daniel Bell-Drummond ei fowlio gan Michael Hogan, cyn i’r bowliwr daro coes Joe Denly o flaen y wiced a chynnig daliad i Chris Cooke i waredu Sam Northeast oddi ar y belen nesaf.

Cipiodd Ruaidhri Smith wicedi Zak Crawley a Sean Dickson cyn i Adam Rouse a Darren Stevens ddod ynghyd i ychwanegu 61 am y chweched wiced.

Ond collodd Stevens ei wiced am 31 wrth iddo fe gael ei fowlio gan Michael Hogan.

Batiad cyntaf Morgannwg

Roedd Morgannwg wedi dechrau’r ail ddiwrnod ar 18-1, ac fe lwyddon nhw i gyrraedd 229 yn eu batiad cyntaf, er eu bod nhw’n 65-5 ar un adeg.

Tair pelawd yn unig gymerodd hi i’r Cymry golli Connor Brown, a gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Darren Stevens.

Cafodd Jack Murphy ei ddal gan Daniel Bell-Drummond i gynnig ail wiced yn y gêm i Adam Milne yn ei gêm olaf i’r sir. Ac fe gollodd David Lloyd ei wiced pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Sam Billings oddi ar fowlio Calum Haggett.

Cafodd Kiran Carlson ei fowlio gan Haggett, wrth i Forgannwg lithro i 65-5, cyn i Chris Cooke ac Andrew Salter ychwanegu 65 am y chweched wiced i achub y Cymry.

Ond collodd Salter ei wiced yn y cyfar trwy ddaliad campus Daniel Bell-Drummond ag un llaw oddi ar fowlio Darren Stevens.

Collodd Chris Cooke ei wiced ar 49 pan gafodd ei ddal gan Sean Dickson yn y slip oddi ar fowlio Calum Haggett, ond daeth achubiaeth unwaith eto i Forgannwg drwy Craig Meschede (44) a Ruaidhri Smith (36).

Ond collodd Meschede ei wiced pan gipiodd Grant Stewart ei wiced gyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf, wrth i’r wicedwr Sam Billings gipio’r daliad.

Cafodd Lukas Carey ei ddal yn y slip gan Dickson i roi ail wiced i Stewart, cyn i Imran Qayyum orffen y batiad gyda wiced i waredu Ruaidhri Smith, a gafodd ei ddal gan Dickson yn y slip.

Sgorfwrdd