Mae perfformiadau diweddar rhai o’r Cymry yn nhîm criced Morgannwg yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol, yn ôl y capten Michael Hogan.

Yn ystod eu gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw yr wythnos ddiwethaf, tarodd Kiran Carlson 191, ei sgôr unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf. Fe ddaeth o fewn trwch blewyn o fod y chwaraewr ieuengaf yn hanes y sir i daro canred dwbl.

Ac fe sgoriodd Andrew Salter 84 – ei sgôr unigol gorau erioed yntau mewn gêm dosbarth cyntaf.

Fe fydd Morgannwg yn teithio i Gaergaint i wynebu Swydd Gaint yn eu gêm olaf, sy’n dechrau ddydd Llun, a hynny heb eu cyn-gapten o Dde Affrica, Jacques Rudolph, sydd wedi ymddeol o’r byd criced.

Mae amheuon hefyd am ffitrwydd ei gydwladwr Colin Ingram, sy’n golygu y gall fod wedi chwarae ei gêm Bencampwriaeth olaf dros Forgannwg, ac yntau wedi cael cytundeb newydd i chwarae mewn gemau undydd yn unig y tymor nesaf.

Mae amheuon hefyd am ffitrwydd y batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald.

Jack Murphy

Dywedodd Michael Hogan: “Roedd hi’n braf gweld y batwyr ifainc hyn yn perfformio cystal a gyda chwaraewyr ifainc eraill o Gymru’n dod drwy’r system, mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

“Pe na bai Colin nac Aneurin yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Gaint, fe fydd cyfle arall i Jack Murphy, sydd eisoes wedi ymddangos y tymor hwn.”