Wrth i Swydd Gaerloyw gwrso pwyntiau bonws llawn ar y trydydd diwrnod, mae’n debygol eu bod nhw wedi colli’r cyfle i guro Morgannwg yn y gêm Bencampwriaeth olaf yng Nghaerdydd.

Ar ôl sgorio 399-8 cyn cau eu batiad cyntaf, rhoddodd y Saeson 15 pelawd i Forgannwg fatio tua diwedd y dydd, a chyrhaeddon nhw 63-1 – mantais o 106 yn eu hail fatiad.

Roedd partneriaeth Benny Howell a James Bracey o 240 yn record newydd am yr ail wiced i Swydd Gaerloyw mewn gêm dosbarth cyntaf yn erbyn Morgannwg.

Mae’n curo’r record flaenorol a gafodd ei gosod gan Alf Dipper a Harry Smith, sef 233 ar gae San Helen yn Abertawe yn 1921, y flwyddyn yr ymunodd Morgannwg â Phencampwriaeth y Siroedd.

Ac fe ddaethon nhw o fewn 16 rhediad i efelychu record Tom Pugh a Tom Graveney ar gyfer y bartneriaeth ail wiced fwyaf erioed i Swydd Gaerloyw yn erbyn unrhyw sir.

Roedd James Bracey allan am 156 yn y pen draw, ei sgôr unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf.

Sesiwn y prynhawn

Ar ôl i drydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Gaerloyw ddechrau yng Nghaerdydd am 12.40pm, cwblhaodd Benny Howell ei ail ganred erioed dros y Saeson, a churo’i sgôr unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf, 102. Roedd e’n 96 heb fod allan dros nos, ac fe gyrhaeddodd e’r nod oddi ar 142 o belenni. Erbyn hynny, roedd e wedi taro 14 pedwar ac un chwech.

Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd ei bartner, James Bracey ei hanner canred oddi ar 119 o belenni, ac roedd e eisoes wedi taro chwe phedwar ac un chwech cyn helpu ei dîm i ennill eu pwynt bonws cyntaf gyda’r bat wrth gyrraedd 200-1.

Wrth i’r batwyr barhau i roi pwysau ar y bowlwyr, fe gyrhaeddodd James Bracey ei ganred oddi ar 210 o belenni ac erbyn hynny, roedd e wedi taro 11 pedwar a dau chwech. Ond daeth y bartneriaeth hanesyddol i ben pan darodd Michael Hogan goes Benny Howell o flaen y wiced, ac yntau wedi sgorio 163. Dwy belen yn ddiweddarach, cafodd George Hankins ei fowlio gan yr un bowliwr, a’r Saeson bellach yn 293-3 wrth golli’r ddwy wiced heb sgorio’r un rhediad. Ychwanegodd James Bracey a Phil Mustard un rhediad cyn amser te.

Sesiwn ola’r dydd

Parhau i fatio heb drafferth wnaeth Swydd Gaerloyw, wrth i James Bracey a Phil Mustard adeiladu partneriaeth o hanner cant ar ddechrau’r sesiwn olaf.

Ond daeth y bartneriaeth i ben pan yrrodd Phil Mustard ar gam i Nick Selman yn y slip oddi ar fowlio Marchant de Lange am 34, a’r ymwelwyr yn 352-4 ar ôl partneriaeth o 59 gyda James Bracey oedd yn dal wrth y llain ar 131 pan gwympodd y wiced.

Ychwanegodd Bracey a Jack Taylor 22 rhediad am y bumed wiced cyn i Taylor gael ei ddal yn y slip gan Colin Ingram oddi ar fowlio Craig Meschede am saith, a’r sgôr yn 375-5. Ond aeth Bracey ymlaen i gyrraedd 150 oddi ar 265 o belenni – gan gynnwys 18 pedwar a dau chwech – cyn i Kieran Noema-Barnett gael ei fowlio gan Marchant de Lange am chwech, a Swydd Gaerloyw’n 384-6.

Wrth anelu am y 400, cafodd James Bracey ei ddal yn syth gan yr eilydd o faeswr, Lukas Carey oddi ar fowlio Craig Meschede am 156, a’r ymwelwyr yn 390-7, cyn i Josh Shaw gael ei ddal mewn sefyllfa debyg gan Kiran Carlson oddi ar fowlio Craig Meschede am un, a’r sgôr yn 396-8.

Ond ar ôl colli allan ar bwyntiau bonws llawn o un rhediad ar ôl 110 o belawdau, penderfynodd Swydd Gaerloyw gau eu batiad ar 399-8, 43 o rediadau y tu ôl i Forgannwg ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Yr ail fatiad

Roedd gan Forgannwg 15 pelawd i’w hwynebu ar ddiwedd y dydd, a’r pâr ifanc, Nick Selman a Connor Brown yn agor y batio. Lai na thair pelawd gymerodd hi i Swydd Gaerloyw gipio’r wiced gyntaf, wrth i Connor Brown gael ei fowlio gan David Payne am 13.

Nick Selman ac Andrew Salter fydd wrth y llain ar ddechrau’r bore olaf, ac mae gan Forgannwg fantais o 106 yn eu hail fatiad.