Kiran Carlson (Llun oddi ar wefan Clwb Criced Morgannwg)
Y chwaraewr ifanc Kiran Carlson oedd y seren i Forgannwg ddoe ar ddiwrnod cyntaf eu gêm gartref olaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Tarodd y batiwr 19 oed o Gaerdydd 137 heb fod allan fel y bydd ei dîm yn dechrau’r ail ddiwrnod ar 342-7. Hwn yw ei sgôr unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf, a’i ail ganred.

Adeiladodd e bartneriaeth o 182 am y chweched wiced gydag Andrew Salter o Sir Benfro, a darodd 84, ei sgôr unigol gorau erioed yntau mewn gêm dosbarth cyntaf.

Tarodd Chris Cooke 51 cyn cinio ddoe ar ôl colli cyfres o wicedi cynnar. Tarodd David Payne goes Nick Selman o flaen y wiced oddi ar ail belen y gêm – fe allai fod wedi cael ei ddal gan y wicedwr James Bracey oddi ar y belen gyntaf.

Yn ei gêm Bencampwriaeth olaf i’r sir, dechreuodd Colin Ingram yn gadarn, gan daro tair ergyd i’r ffin yn y pelawdau agoriadol, ond fe gafodd ei fowlio gan Liam Norwell am 18 cyn i Connor Brown, Cymro ifanc arall, ddod i’r llain ar gyfer ei gêm Bencampwriaeth gyntaf.

Sgoriodd e 35 ar ôl taro wyth pedwar a phan darodd Kieran Noema-Barnett ei goes o flaen y wiced, roedd Morgannwg mewn trafferthion ar 62-3. Ac fe gynigiodd Aneurin Donald ddaliad syml i George Hankins yn y slip oddi ar fowlio David Payne wrth i Forgannwg lithro i 63-4.

Adferiad

Pan ddaeth Kiran Carlson a Chris Cooke ynghyd, roedd talcen caled o’u blaenau yn erbyn bowlio Kieran Noema-Barnett a Matt Taylor. Ond fe lwyddon nhw i gynnal y gyfradd sgorio o bedwar y belawd am gyfnod, gan adeiladu partneriaeth o 65 cyn te i gyrraedd 216-5.

Cyrhaeddodd Chris Cooke ei hanner canred oddi ar 67 o belenni cyn iddo fe gael ei fowlio gan David Payne am 51 ar ôl egwyl hir i drwsio twll yn y cae. Roedd e a Kiran Carlson wedi adeiladu partneriaeth o 88 am y bumed wiced.

Cyrhaeddodd Carlson ei hanner canred oddi ar 131 o belenni gyda’i seithfed pedwar, ac fe ymunodd Andrew Salter yn yr hwyl gan daro cyfres o ergydion i’r ffin.

Dangosodd y batiwr ifanc gryn aeddfedrwydd ac amynedd, ond fe ddangosodd ei ddawn ymosodol hefyd i daro dau chwech i gyfeiriad afon Taf. Roedd y pâr wedi adeiladu partneriaeth o gant cyn ac ar ôl te ac roedd hi’n ras wedyn rhwng Carlson i gyrraedd ei gant a Salter i gyrraedd ei hanner cant.

Cerrig milltir

Kiran Carlson oedd y cyntaf i groesi’r llinell a hynny oddi ar 216 o belenni, gan gynnwys 12 pedwar a dau chwech. Roedd ei fatiad wedi para dros bedair awr a hanner. Cyrhaeddodd Andrew Salter ei hanner canred oddi ar 127 o belenni ar ôl taro pum pedwar.

Sicrhaodd y pâr drydydd pwynt batio wrth iddyn nhw gyrraedd partneriaeth o 150 yn hwyr yn y dydd. Ond daeth honno i ben ar 182 pan gafodd Andrew Salter ei ddal gan y wicedwr James Bracey oddi ar fowlio Josh Shaw am 84, a Morgannwg yn 333-6.

Cafodd Craig Meschede ei ddal gan Chris Dent yn y slip oddi ar fowlio Kieran Noema-Barnett heb sgorio, a’r sgôr yn 336-7. Ruaidhri Smith fydd wrth y llain gyda Kiran Carlson ar ddechrau’r ail ddiwrnod.

Sgorfwrdd