Jonathan Edwards wedi'i siomi gan agwedd Weinidog yr Economi, Ken Skates
Mae llythyr gan Weinidog yr Economi, Ken Skates yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru’n mynd â mater tîm criced i Gymru ymhellach yn “dangos diffyg uchelgais”, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards.

Mae’r Aelod Seneddol tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn un o’r lleisiau amlycaf yn yr ymgyrch.

Yn ei lythyr, dywedodd Ken Skates mai “penderfyniad i’r awdurdodau criced ac nid i Lywodraeth Cymru” fyddai a ddylai tîm criced Cymru gael ei sefydlu.

Mae Clwb Criced Morgannwg a chorff Criced Cymru’n gwrthwynebu’r syniad, gan ddadlau ei fod yn peryglu dyfodol Morgannwg fel un o ddeunaw sir y drefn Seisnig, sydd o dan reolaeth Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Cymru, ar hyn o bryd, yw’r unig un o wledydd Prydain sydd heb dîm criced cenedlaethol. Mae gan Loegr ac Iwerddon dimau prawf llawn, tra bod gan yr Alban statws tîm undydd.

Cefnogaeth

Ddechrau’r haf, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wrth ymateb i gwestiwn yn y Senedd ei fod yn cefnogi sefydlu tîm undydd.

Ond roedd hynny, meddai, yn ddibynnol ar sicrwydd na fyddai’n peryglu statws Morgannwg a’u gallu i ddenu gemau rhyngwladol Lloegr i Gaerdydd.

Daeth cadarnhad ddoe y byddai Stadiwm y Swalec SSE yn cynnal gemau undydd yn erbyn Awstralia ac India y tymor nesaf.

Gwrthwynebiad

Ddechrau’r tymor hwn, dywedodd Criced Cymru wrth golwg360 nad oedd sefydlu tîm criced i Gymru’n “opsiwn”, yn eu barn nhw.

Yn ei lythyr yr wythnos hon, dywedodd Ken Skates fod “Criced Cymru wedi cynnig egluro’r sefyllfa yn fanylach i unrhyw aelod, yn bersonol, pe byddai ganddynt ddiddordeb”.

‘Dim newid yn safbwynt y Llywodraeth’

Wrth ymateb i’r llythyr, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards: “Mae llythyr y Gweinidog yn siomedig ac yn dangos diffyg uchelgais gan Lywodraeth Cymru.

“Does dim newid wedi bod yn safbwynt y llywodraeth er gwaethaf datganiad y Prif Weinidog ei fod e’n gefnogol.

“Bydd y llythyr yn siom i nifer o gefnogwyr criced yng Nghymru sy’n cefnogi gweld tîm cenedlaethol.

“Mae yna fodd i sicrhau tîm cenedlaethol Cymru heb beryglu statws Morgannwg neu Gerddi Sophia ar gyfer gemau prawf os oes gan Lywodraeth Cymru awyddus clir i drafod gyda Bwrdd Criced Lloegr a’r corff llywodraethu criced.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Weinidog yr Economi, Ken Skates.