Fe fydd nifer o gricedwyr ifainc Morgannwg yn cael cyfle i chwarae yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Sussex sy’n dechrau ddydd Llun ar gae Llandrillo-yn-Rhos ger Bae Colwyn.

Mae nifer o’r chwaraewyr mwyaf profiadol yn cael gorffwys cyn Diwrnod Ffeinals cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn Edgbaston ddydd Sadwrn nesaf.

O blith y garfan o 12, mae saith chwaraewr o Gymru ac wyth o gyn-chwaraewyr Academi’r sir, gan gynnwys Connor Brown a Jack Murphy, sydd heb gynrychioli’r sir mewn gêm dosbarth cyntaf hyd yn hyn.

Mae’r Albanwr Ruaidhri Smith wedi’i gynnwys, ynghyd â’r wicedwr Tom Cullen sy’n enedigol o Awstralia.

‘Angen addasu’n gyflym’

Mae’r batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald wedi pwysleisio fod angen i Forgannwg addasu’n gyflym i’r bêl goch unwaith eto ar ôl chwarae cymaint o griced â’r bêl wen yn ddiweddar.

“Yn amlwg, mae’r bêl yn symud am fwy o amser nag y mae’r bêl Kookaburra wen.

“Mater o addasu a gwahanu gêm y bêl wen oddi wrth gêm y bêl goch fydd hi, ond mae’r bechgyn yn amlwg wedi cyffroi i gael dechrau arni eto.

“Dydy’r pethau sylfaenol byth yn newid, ond mae ambell beth ry’ch chi’n ei addasu ac mae angen i chi wneud ambell benderfyniad gwahanol, ond mae digon o’n bois ni wedi chwarae digon o gemau yn y Bencampwriaeth i wybod amdanyn nhw ac i addasu’n gyflym.”

Efelychu record

Yng ngêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Derby yn Llandrillo-yn-Rhos y llynedd, sgoriodd Aneurin Donald 234 oddi ar 136 o belenni i efelychu record y sir am y canred dwbwl cyflymaf erioed i sicrhau’r fuddugoliaeth o bedair wiced.

Nid dyna’r record gyntaf i Forgannwg ar y cae hwn, ar ôl i’r cyn-gapten Steve James sgorio 309 heb fod allan – y sgôr unigol mwyaf erioed yn hanes y sir, a’r batiwr cyntaf i sgorio tri chant mewn batiad i’r sir – y tro diwethaf iddyn nhw herio Swydd Sussex yn y gogledd.

Bryd hynny, sgoriodd Morgannwg gyfanswm o 718-3 cyn cau’r batiad – eu cyfanswm gorau erioed mewn gêm Bencampwriaeth.

‘Edrych ymlaen’

Dywedodd Aneurin Donald: “Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at fatio arni. Mae’n enwog am fod yn llain dda gyda ffiniau bychain felly mae’r batwyr, yn enwedig, wedi cyffroi.

“Mae Bae Colwyn yn wych o le i ddod iddo; mae torf dda bob amser felly gobeithio y bydd hi’n wythnos dda i Forgannwg.”

Mae’r gêm hefyd yn gyfle i rai o’r chwaraewyr ifainc ddangos eu doniau er mwyn cystadlu am ddau le yn y tîm y tymor nesaf.

Fe fydd y capten Jacques Rudolph yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, ac mae Colin Ingram wedi arwyddo cytundeb newydd i chwarae mewn gemau undydd yn unig yn 2018 a 2019.

Carfan Morgannwg: N Selman, O Morgan, J Murphy, A Donald, K Carlson, A Salter, C Brown, C Meschede, T Cullen, R Smith, L Carey, M Hogan (capten)

Carfan Swydd Sussex: B Brown (capten), J Archer, W Beer, D Briggs, H Finch, C Jordan, C Nash, O Robinson, A Robson, S van Zyl, L Wells, S Whittingham, D Wiese, L Wright

Sgorfwrdd