Mae cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Ottis Gibson yn cael ei grybwyll fel olynydd i brif hyfforddwr tîm criced De Affrica, Russell Domingo pe bai e’n colli ei swydd.

Mae amheuon am ddyfodol y prif hyfforddwr yng nghanol y gyfres rhwng Lloegr a De Affrica.

Ottis Gibson oedd chwaraewr tramor Morgannwg rhwng 1994 a 1996, ac mae e bellach yn hyfforddwr bowlio tîm Lloegr, ar ôl pedair blynedd wrth y llyw yn India’r Gorllewin, ei famwlad, rhwng 2010 a 2014.

Mae gan Russell Domingo gytundeb gyda De Affrica tan ddiwedd y daith i Loegr, ac mae Ottis Gibson yn cael ei ystyried yn un o’r ffefrynnau i’w olynu.

Ond mae Lloegr yn gwadu bod De Affrica wedi gwneud cais i siarad â’r hyfforddwr 48 oed, ac maen nhw’n mynnu na fyddan nhw’n trafod ei ddyfodol tan ddiwedd y gyfres.