Llywydd Clwb Criced Morgannwg, Alan Jones (Llun: golwg360)
Wrth i Forgannwg golli’n drwm o ddeg wiced yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham heddiw, roedd cyfraniad un o hoelion wyth y sir, Don Shepherd i sefydlu Cymdeithas y Cricedwyr – rhagflaenydd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) – yn cael ei ddathlu mewn cinio arbennig yn y cae.

Roedd cyn-droellwr Morgannwg yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cricedwyr yn swyddfeydd y Daily Express yn Fleet Street yn Llundain ym mis Medi 1967, ynghyd â Fred Rumsey, Eric Russell a Mike Smedley a’r cyfrifydd Harold Goldblatt.

Un arall o fawrion Morgannwg oedd yn y cyfarfod hwnnw yn 1967 oedd Llywydd y sir, Alan Jones, fu’n siarad â golwg360 heddiw.