Andrew Salter
Fe fydd tîm criced Morgannwg yn anelu am ddwy fuddugoliaeth o’r bron wrth iddyn nhw herio Swydd Middlesex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London heddiw.

Hon fydd eu taith gyntaf erioed i gae Radlett yn Swydd Hertford.

Ar ôl dechrau siomedig i’r gystadleuaeth, mae gan Forgannwg obaith o hyd o gyrraedd rownd yr wyth olaf ar ôl curo Swydd Essex o un rhediad yng Nghaerdydd ddydd Sul, diolch i 142 gan Colin Ingram.

Mae Jacques Rudolph wedi gwella o salwch i arwain y tîm, ac mae Will Bragg a Timm van der Gugten wedi’u cynnwys wrth iddyn nhw wella ar ôl anafiadau.

Mae’r bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey a’r troellwr o Sir Benfro, Andrew Salter wedi’u hychwnegu at y garfan.

Ymhlith tîm y Saeson mae cyn-fowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, James Franklin, a Tom Helm, a dreuliodd gyfnod ar fenthyg yng Nghymru yn 2014.

Carfan Swydd Middlesex: J Franklin (c), N Compton, S Eskinazi, S Finn, J Fuller, N Gubbins, T Helm, R Higgins, D Malan, R Patel, O Rayner, T Roland-Jones, J Simpson, A Voges

Y tîm: N Gubbins, D Malan, N Compton, A Voges, J Simpson, J Franklin (capten), R Higgins, T Roland-Jones, T Helm, S Finn, R Patel

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, W Bragg, C Ingram, K Carlson, A Donald, C Cooke, C Meschede, A Salter, M De Lange, T van der Gugten, L Carey, M Hogan

Y tîm: J Rudolph (capten), D Lloyd, W Bragg, C Ingram, K Carlson, A Donald, C Cooke, C Meschede, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan

Sgorfwrdd