John Derrick (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
I John Derrick mae’r diolch am gynhyrchu’r genhedlaeth bresennol o gricedwyr ifainc o Gymru yn nhîm Morgannwg, yn ôl Prif Weithredwr y sir, Hugh Morris.

Roedd Hugh Morris a John Derrick yn aelodau o dîm Morgannwg yn y 1980au, gan rannu ystafell ar deithiau oddi cartref.

Bu farw John Derrick yn 54 oed yr wythnos diwethaf ar ôl bod yn dioddef o diwmor ar ei ymennydd.

Cafodd ei angladd ei gynnal yn Aberdâr heddiw.

Gwaddol

Dywedodd Hugh Morris wrth golwg360: “Mae’n wythnos drist iawn.

“Fe chwaraeais i a John ein gêm gyntaf dros Ysgolion Cymru gyda’n gilydd yn 1978.

“Roedden ni’n ‘roomies’ ym Morgannwg yn ystod ein blynyddoedd cynnar gyda’r clwb, ac felly ro’n i’n ei nabod e’n ifanc iawn.

“Mae’n drasiedi, ond mae gwaddol John yn anhygoel. Fe, o bosib, yw’r hyfforddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Morgannwg.”

‘Fel tad’

O dan arweiniad John Derrick, enillodd Morgannwg y Gynghrair Undydd Genedlaethol ddwywaith, yn 2002 a 2004, a chyrraedd Diwrnod Ffeinals y T20 Blast yn 2004.

Ond ar lawr gwlad y gwnaeth John Derrick ei gyfraniad mwyaf i’r byd criced yng Nghymru, yn ôl Hugh Morris.

“Mae’r hyn mae e wedi’i wneud ar lefel hamdden i fechgyn a merched mwyaf talentog Cymru’n rhagorol.

“Mae e wedi bod fel tad iddyn nhw, a dim ond oherwydd bod John wedi cynhyrchu cynifer o chwaraewyr y mae ein strategaeth ni o gynnwys cynifer o chwaraewyr o Gymru â phosib yn y tîm wedi bod yn bosibl.

“Mae cynifer o fechgyn a merched wedi dod i mewn i’n carfannau ni oherwydd John, a byddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau fe’n fawr.”